- Enw:
- Beth yw eich gwaith?
- Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
- O ble'r ydych chi'n dod?
- Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
- Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
- Beth wnaeth i chi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dywedwch ychydig amdano?
- Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
- Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
- A fyddwch yn edrych arno'n awr?
- Pwy yw eich hoff awdur?
- A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
- Pwy yw eich hoff fardd?
- Pa un yw eich hoff gerdd?
- Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
- Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
- Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
- Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
- Pa un yw eich hoff air?
- Pa ddawn hoffech chi ei chael?
- Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
- A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
- Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
- Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi'n hoffi bod yn rhan ohono?
- Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
- Pa un yw eich hoff daith a pham?
- Beth yw eich hoff bryd bwyd?
- Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
- Pa un yw eich hoff liw?
- Pa liw yw eich byd?
- Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
- A oes gennych chi lyfr arall ar y gweill?
- Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Lloyd Jones
Sgriblwr.
Gwas fferm, newyddiadurwr, gweithio efo'r methedig, darlithydd, gweithio mewn Chamber of Horrors.
Bryn Clochydd, Gwytherin ger Llanrwst, ar odre Mynydd Hiraethog.
Ger y m么r yn Llanfairfechan. Mae'r m么r yn bwysig i mi.
Dydw i ddim yn cofio'r addysg ond rwy'n cofio'r paffio.
Wedi sgwennu tri llyfr yn Saesneg, rhoddwyd digon o hyder i mi - gan Y Lolfa - i sgwennu llyfr yn y Gymraeg. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi gwneud hynny. Llyfr ydyw am ofnau'r oes hon ynghylch y dyfodol, ac mae'n stori serch hefyd.
Mr Vogel, Mr Cassini, a My First Colouring Book.
The Swiss Family Robinson, mae'n debyg.
Na fyddaf!
Dafydd ap Gwilym yw'r meistr.
Oes, nifer fawr, pob un wedi newid fy myd ychydig.
Rwy'n hoffi barddoniaeth fodern, yn arbennig y to ifanc o ferched dawnus sydd wedi dod i'r fei.
Dim ffefryn.
Unrhyw un gan yr hen Ddafydd 'na eto.
Rwy'n tueddu i wylio rhaglenni yn ymwneud 芒 hanes a chelf ar y bocs; rwy'n hoffi ffilmiau o bedwar ban y byd, heblaw am rwtsh Hollywood.
Fedra i ddim neilltuo neb.
Yng ngenau'r sach mae cynilo.
Rwy'n licio geiriau ormod o lawer i ddewis un.
Arlunio.
Dyn bach rhyfedd.
Ha!
Fy nheulu.
Y diwrnod diwethaf o ryfel yn y byd.
Buaswn i'n licio stwnsian efo fy mherthnasau dros y canrifoedd.
Unrhyw le yng Nghymru - rwyf wedi cerdded reit o amgylch Cymru ac ar draws y wlad wyth gwaith.
Bwyd 'di bwyd i mi. Mae o'n obsesiwn efo pobol.
Nap yn y pnawn.
Glas (hen liw arferwyd ei weld yn yr awyr).
Eh?
Na, gewch chi basio'r deddfau.
Nagoes. (Diolch i Dduw medd pawb).
Daeth yr amser i dawelu...
Mehefin 2009