91热爆

Lloyd Jones: Y D诺r - adolygiad

Rhan o glawr y llyfr

Adolygiad Kate Crockett o Y D诺r gan Lloyd Jones. Lolfa. 拢8.95.

Tybed a yw pob cenhedlaeth yn ofni gweld diwedd y byd yn dod?

Yn ystod y rhyfel oer, apocalyps niwclear oedd y bwgan mawr. Erbyn hyn, proffwydo diwedd ein gwareiddiad presennol oherwydd newid yn yr hinsawdd ydym ni - ac mae hynny eisoes wedi esgor ar ddwy nofel yn y Gymraeg.

Clawr y llyfr

Yn Annwyl Smotyn Bach gan Lleucu Roberts, a gyhoeddwyd y llynedd, mae cynhesu byd-eang wedi creu Cymru annioddefol o grasboeth.

Ond, yn unol 芒'r teitl, 诲诺谤 yw'r bygythiad mawr yn nofel Gymraeg gyntaf Lloyd Jones, a gyhoeddwyd eleni yn ystod haf gwlyb arall - argoel tybed?

Eisoes enillodd Lloyd Jones nifer o wobrau am ei ddwy nofel, Mr Vogel a Mr Cassini: llyfrau Saesneg eu hiaith ond hynod Gymreig eu naws, yn drwm dan ddylanwad chwedlau Cymru.

Y D诺r yw ei nofel gyntaf yn Gymraeg ac mae'r arddull yn syml a dirodres.

Hanes teulu yn byw ar fferm Dolfrwynog sydd yma, fferm a fu ar un adeg yng ngogledd Cymru ond sydd bellach ar lan llyn enfawr wrth i diroedd yr hen wlad ddiflannu o dan y tonnau - syniad sy'n gyforiog o ystyr yn y dychymyg Cymreig wrth gwrs.

Ar un adeg bu rhai o aelodau'r teulu yn crwydro'r byd, ond erbyn hyn, hyd a lled eu byd yw buarth eu fferm.

Yn niffyg ehangder daearyddol, mae Huw, y mab ifanc, yn troi at ddarllen, a daw straeon yn gynyddol bwysig wrth i Nico, dyn ifanc o wlad Pwyl, gyrraedd y fferm.

Gwaith Mari'r ferch yw gweu straeon dychmygus o amgylch y beddau dirgel yno ac yma, fel yng ngwaith blaenorol Lloyd Jones, gwelir dylanwad chwedlau a straeon o hanes Cymru: Sarah Jacob, y ferch o Bencader a newynodd i farwolaeth; Rhiannon, a Dylan Eil Ton.

Ond mae gan chwedlau modern eu rhan i'w chwarae yn yr hanes hwn hefyd a phan ddaw dihirod ar draws y 诲诺谤 o'r diwedd, maen nhw wedi'u naddu o fyd cartwnau a ffilmiau Hollywood.

Ni all bywyd ar y fferm barhau a gyda marwolaeth yr hen ffermwr, Yncl Wil, mae Mari'n gweld marwolaeth yr hen Gymru - adlais o hen wraig Y Bala yn nofel ddystopaidd fawr yr ugeinfed ganrif, Wythnos yng Nghymru Fydd.

Mae hon yn nofel sy'n argyhoeddi'n llwyr yn ei disgrifiadau o galedi bywyd mewn hinsawdd sy'n ei gwneud hi'n amhosib bron i oroesi. Mae'r disgrifiadau o'r cywion bach - y rhai olaf - yn marw mewn storm lawn mor frawychus ag unrhyw ddisgrifiadau o gymylau madarch.

Hwyrach bod y foeswers amgylcheddol braidd yn amlwg ar brydiau ond mae dychymyg yr awdur a'i ddefnydd gwreiddiol o gyfoeth stor茂ol Cymru yn iasol.

Mae Lloyd Jones wedi datgan mai dyma ei nofel olaf mewn unrhyw iaith a'i fod bellach yn chwilio am her arall.

Er fy mod yn parchu ei benderfyniad, ni allaf beidio 芒 gresynu na ddaw cyfle arall i fentro i un o fydoedd unigryw yr awdur arbennig hwn.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.