15 Medi 2011
Adolygiad John Stevenson o Cythral o D芒n gan Arwel Vittle. Cofio 75 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio. Y Lolfa. 拢7.95
"Mae gwahaniaeth mawr rhwng t芒n siafins a seren wib. Y cyfan sydd na ar 么l tan siafins ydi llwch ac ogla. Mae seren wib yn gadael delweddau yn y cof ac mae dyn yn dychwelyd atynt flynyddoedd wedyn i gofio'r achlysur ac i holi am yr arwyddocad"
Fel'na, yn ddigon gogleisiol, mae Dafydd Wigley yn ei dweud hi yn y cyflwyniad i gyfrol newydd Arwel Vittle sy'n "cofio 75 mlynedd ers Llosgi yn Ysgol fomio" ym Mhenyberth ger Pwllheli.
Er nad yn swmpus o ran maint mae hon yn gyfrol swmpus a gafaelgar o ran sylwedd.
Cyfrol sy'n sicr o werth i unrhyw un sy'n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth a hanes Cymru ac yn arbennig felly yn nhwf cenedlaetholdeb Gymreig.
Lluniau difyr
Ychwanegiad y gwnes i ei fwynhau yn fawr yw y lluniau. Tudalen 68: y safle drannoeth y t芒n er enghraifft.
Tudalen 78: Saunders Lewis yn paratoi ei araith yn y Llys.
G诺r ifanc gwelw ac aesthetig yr olwg ond yn amlwg o wytnwch - neu ystyfnigrwydd argyhoeddiad - rhyfeddol.
Un o'r lluniau mwyaf dirdynnol yw "Aduniad y Tri" yn 1968- y tro cyntaf iddynt fod yn yr un lle gyda'i gilydd ers 1936.
Un peth sy'n sicr o fod yn haeddu parch yw'r ffaith na cheisiodd 'Y Tri' osgoi cyfrifoldeb am y weithred gan fynd o'u gwirfodd i orsaf yr heddlu i gyfaddef.
Gair pellach am Gyflwyniad Dafydd Wigley.
Mae Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru yn codi nifer o sgwarnogod am Benyberth.
"Er anferthed y cynnwrf a'r sialens i'r gydwybod genedlaethol," meddai, "ni lwyddwyd i gynnal y momentwm." (Hynnu yw o weithred y llosgi).
Pam y methodd Plaid Cymru fachu ar y cyfle?
"Ai diffyg trefn? Ai diffyg stamina gwleidyddol? Neu ddiffyg arweiniad? Ai diffyg argyhoeddiad. Ai ofn?"
Ia ia, dwi'n gwybod; mae'r Arglwydd Wigley yn codi'r cwestiynau yng nghyd-destun Penyberth sef careg filltir yn hanes cenedlaetholdeb 75 o flynyddoedd yn 么l.
Ond mae o yn ddigon o lwynog gwleidyddol i sylweddoli fod modd darllen ei gwestiynau yng nghyd-destun y ffaith fod 'Plaid' wedi gwneud yn symol yn etholiadau'r Cynulliad n么l y mis Mai ac felly fod y cwestiynau yn her i'r Blaid mewn cyfnod newydd dyrys yn ei hanes.
Mae'n ddiddorol ceisio gosod y cwestiynau yn y cyd-destun hwnnw:
Ai diffyg trefn? Ai diffyg stamina gwleidyddol? Neu ddiffyg arweiniad? Ai diffyg argyhoeddiad. Ai ofn?
Cwestiynau heddiw?
Y llyfr
Ond dyna ni ddigon o drafod y Cyflwyniad. Beth am y gyfrol ei hun?
Wedi 139 o dudalennau mae adran ar y diwedd yn nodi Darllen Pellach - ond dim mynegai ac mae honno yn gw欧n gyson am lyfrau ffeithiol yn y Gymraeg.
Dwi'n derbyn wrth gwrs fod hon yn gyfrol ar gyfer y darllenwr 'cyffredin'ac yn derbyn hefyd nad pawb sydd 芒'r diddordeb i fynd i ddarllen ymhellach ond mae na restr o lyfrau, cylchgronau a phapurau newydd i ffeindio mwy o wybodaeth ond heb gyfeiriadau manwl i hwyluso hynny o fewn y testun ei hun.
Beth oedd Penyberth?
Be oedd 'Penyberth' felly a beth ddigwyddodd yno saith deg a phump o flynyddoedd yn ol?
Fferm ym Mhen Ll欧n oedd Penyberth ac wedi bod yn gartref ers y canol oesoedd i fonheddwyr a noddwyr beirdd.
Roedd Penyberth ar y fordd i Enlli hefyd ac felly o arwyddoc芒d mawr i Babyddion y Canol Oesoedd.
Yn 1936 cafodd y lle ei chwalu i godi maes hyfforddi ar gyfer yr Awyrlu. 'Ysgol Fomio' fel y daethpwyd i adnabod y lle.
Cythruddwyd gwrthwynebwyr y cynllun gan y ffaith i safleoedd yng nogledd Lloegr a Dorset gael eu gwrthod gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn protestiadau ffyrnig ond y gwrthwynebiad yng Nghymru yn cae; ei ddiystyru gan lywodraeth Stanley Baldwin.
Mae hyn, wrth reswm, yn cael cryn sylw gan Arwel Vittle.
Yna, ar Fedi 8, 1936, cafodd adeiladau ar y safle eu llosgi gyda tri chenedlaetholwr blaenllaw: Saunder Lewis, y Parchedig Lewis Valentine a DJ Williams yn hawlio'r cyfrifoldeb.
Wedi i'r rheithgor mewn achops llys yng Nghaernarfon fethu 芒 chytuno ar ddedfryd, cafodd yr achos ei symud i Lys yr Old Bailey lle cafodd y tri naw mis o garchar.
I lawer, mi ddaethant yn arwyr cenedlaethol.
Dwy ochr
Mae Arwel Vittle yn croniclo'r hanes yn ddeheuig ac mewn modd darllenadwy a gwrthrychol gan nodi dwy ochr yr hanes.
Mae cenedlaetholwyr hyd heddiw yn ystyried fod yr hyn ddigwyddodd ym Mhenyberth yn garreg fillltir bwysig yn nhwf cenedlaetholdeb Gymreig. Yn wir mae rhai am fynd ymhellach a hawlio fod hwn yn ddigwyddiad anferthol yn hanes Cymru.
Ond mae Arwel Vittle yn cydnabod fod llosgi Penyberth yn weithred ddadleuol ar y pryd gan fod y cynllun, i lawer o bobol leol, yn achubiaeth.
Mae'r gyfrol yn ei hatgoffa fod 21% o ddynion yr ardal allan o waith a chyda gwaith yn brin gwelid datblygiadau milwrol fel ffatr茂oedd arfau fel modd i ennill cyflog a rhoi bwyd ar y bwrdd.
Ar Chwefror 29 1936 mewn cyfarfod yn festri Capel Penmount, Pwllheli, lle'r oedd 'Y Tri' i fod i siarad "tarfwyd ar y cyfarfod gan griw o bobol y dref a rhwystrwyd y tri rhag siarad."
Felly, tra'r oedd y llosgi yn weithred arwrol i rai nid oedd i eraill ond yn anfadwaith anghyfrifol ac yn slap i ardal oedd gymaint o angen gwaith.
Mae eironi rhyfeddol ynghlwm 芒 saga Penyberth, felly, ac er y llosgi, y protestio; y deisebu a'r carcharu ddaeth yna fawr o fudd i'r Awyrlu o fod yn Mhenyberth.
"Y reswm penna," meddai Arwel Vittle "oedd fod niwl m么r arfordir Ll欧n yn amharu yn sylweddol ar eu gallu i hedfan ac i ymarfer eu hymosodiasau o'r awyr."
Rhyfedd o fyd!
John Stevenson