Fe gofir am Lewis Valentine yn bennaf fel un o Dri G诺r Penyberth, sef y tri aelod o Blaid Genedlaethol Cymru a rhoddodd yr ysgol-fomio yn Ll欧n ar d芒n ym 1936 - y ddau arall oedd Saunders Lewis a D. J.Williams - ac fe'i dedfrydwyd i naw mis o garchar o'r herwydd.
Ganwyd Lewis Valentine yn Llanddulas, Conwy - yr hen Sir Ddinbych - ym 1893.
Amharwyd ar ei gwrs yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, lle aeth er mwyn paratoi ar gyfer y weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr, gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Treuliodd dair blynedd fel aelod o uned o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin yn Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon, cyn dychwelyd i Fangor ym 1919 yn genedlaetholwr ac yn heddychwr o argyhoeddiad cadarn.
Tra roedd yn fyfyriwr chwaraeodd ran amlwg yn y mudiad a arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru ym 1925.
Ef oedd Llywydd cyntaf y Blaid a'i hymgeisydd seneddol cyntaf ym 1929, pan ennillodd 609 o bleidleisiau yng Nghaernarfon.
Y gell a'r capel
Wedi ei ryddhau o garchar ar 么l achos Penyberth, dychwelodd i'w alwedigaeth fel gweinidog yr Efengyl. Roedd wedi bod yn fugail y Tabernacl yn Llandudno er 1921 ac yno yr arhosodd tan 1947 pan dderbyniodd alwad i Benuel, Rhosllannerchrugog.
O 1923 hyd 1936 fo oedd golygydd Y Deyrnas, misolyn Bedyddwyr Llandudno, ac o 1951 hyd 1975 golygodd Seren Gomer, cylchgrawn ei enwad.
Profiadau rhyfel a charchar
Roedd Lewis Valentine yn lenor o gryn allu. Yn Dyddiadur Milwr, a welodd olau dydd am y tro cyntaf ar dudalennau Seren Gomer rhwng 1969 a 1972, ac a gyhoeddwyd yn llyfr ym 1988 (gol. John Emyr) gwelir ei gyfraniad mwyaf nodedig.
Croniclir gan y llyfr hwn ei brofiadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a hynny mewn arddull goeth ond uniongyrchol; cymharir ei arddull weithiau ag un ei arwr mawr, sef Emrys ap Iwan.
Gwaith arall o werth llenyddol yw Beddau'r Byw, cyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd gyntaf yn Y Ddraig Goch, papur Plaid Genedlaethol Cymru, rhwng 1937 a 1939; adroddir yma ei gyfnod yn Wormwood Scrubs.
Ond fe gofir amdano'n fwyaf mynych fel awdur yr emyn Gweddi dros Gymru, a genir ar alaw wladgarol Sibelius, Finlandia, ac sy'n crynhoi athroniaeth y g诺r urddasol, hawddgar ac unplyg hwn; yn wir, mae'r emyn wedi ennill statws 'ail anthem genedlaethol Cymru'.
Saif cof-golofn i Dri G诺r Penyberth ger y t欧 heb fod ymhell o Benrhos yn Ll欧n a thua dwy filltir o Bwllheli ar yr A499.
Meic Stephens
Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn