91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 08 Hydref 2010

Efydd i Carlin a Davies yn y pwll

Roedd rhagor o lwyddiant i ferched Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad wrth i Jazz Carlin a Georgia Davies gipio medalau efydd yn y pwll.

Jazz Carlin (ar y dde) gyda Rebecca Adlington
Cael a chael oedd hi i Carlin wrth iddi frwydro yn y 10 metr olaf yn y ras 400m dull rhydd i gyrraedd y nod modfeddi o flaen Anne Bochmann o Loegr.

Ac roedd hi'n agosach fyth yn y 50m dull cefn wrth i Davies rannu'r trydydd safle gyda'r ffefryn Emily Seebohm wrth orffen gydag union yr un amser.

Dyma oedd ail lwyddiant Carlin yn y pwll ar ôl i'r ferch 20 oed gipio'r fedal arian yn y ras 200m ddydd Llun, wrth orffen tu ôl i Kylie Palmer ac o flaen Rebecca Adlington.

A'r dair yna hawliodd y medalau dros 400m, ond roedd y drefn yn hollol wahanol.

Adlington ddaeth i'r brig y tro yma, wrth i'r bencampwriaeth Olympaidd greu record newydd yn y Gemau wrth orffen mewn amser o bedwar munud 05.68 eiliad.

Gorffennodd Palmer bron i ddau eiliad yn ddiweddarach, gyda Carlin yn ymestyn i'r eithaf i sicrhau medal arall.

"Roeddwn yn teimlo'n ofnadwy bore 'ma," meddai Carlin wedi'r ras. "Felly mae ennill medal arall yn wych."

Sophie Edington o Awstralia a Gemma Spofforth o Loegr oedd o flaen Davies yn y 50m dull cefn.

Gorffennodd David Roberts yn bedwerydd yn rownd derfynol 100m yr S8 dull rhydd - categori gwahanol i'r hyn y mae'n arfer cystadlu.

Ac fe orffennodd Marco Loughran hefyd yn bedwerydd yn rownd derfynol y 100m dull cefn.

Ond roedd ymdrechion Ieuan Lloyd i gyrraedd rownd derfynol y ras gymysg unigol dros 200m yn aflwyddiannus.

Mae David Davies wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol yn 1500m dull rhydd ar ôl gorffen yn bedwerydd yn ei ragras ddydd Gwener.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Ìý
Medalau Cymru
Ìý


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý