91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 07 Hydref 2010

Arian i Breeze, Parry a McLoughlin yn Delhi

Y merched sydd yn parhau i hawlio medalau Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad gyda Michaela Breeze, Carys Parry a Jenny McLoughlin yn ennill arian.

Michaela Breeze

Roedd Breeze, enillodd aur yn Melbourne bedair blynedd yn ôl, yn cystadlu am y tro olaf cyn ymddeol yng nghategori 63kg y codi pwysau.

Er iddi lewygu, roedd capten tîm Cymru yn y safle ar gyfer y fedal aur ar un cyfnod ond fe fethodd gyda'i chynnig olaf.

Ac fe lwyddodd Obioma Okoli o Nigeria i godi'r pwysau o 115kg i hawlio'r aur ac i chwalu breuddwydion Breeze.Carys Parry

"Mae'n ddiwedd cyfnod wedi gyrfa 18 mlynedd. Fe wnes i roi popeth," meddai Breeze.

"Fe ddes i yma i ennill yr aur ond 'dwi wrth fy modd gyda'r arian yn enwedig ar ôl dod yn ôl wedi anaf."

Hawliodd y cystadleuydd paralympaidd Jenny McLoughlin medal gyntaf Cymru yn yr athletau wrth iddi sicrhau arian yn y 100m T37 i ferched.

Sefydlodd McLoughlin record bersonol newydd wrth orffen yn ail mewn amser o 14.68 eiliad gyda Katrina Hart o Loegr yn cipio'r aur a Johanna Benson yn ennill yr efydd.

A ni fu'n rhaid aros yn rhy hir am ail fedal Cymru o'r dydd yn Stadiwm Jawaharlal Nehru wrth i Carys Parry ennill efydd yng nghystadleuaeth taflu'r morthwyl.

Sicrhaodd y ferch o Bontypridd y fedal arian gyda thafliad o 64.93 metr - ei pherfformiad gorau o'r tymor.

Sultana Frizell o Ganada enillodd y fedal aur gyda thafliad o 68.57 metr gan sefydlu record newydd ar gyfer Gemau'r Gymwanwlad.

Ac fe sicrhaodd Zoe Derham y fedal efydd i Loegr wedi tafliad o 64.04m.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Ìý
Medalau Cymru
Ìý


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý