Enillodd James fedal arian yn y ras wibio unigol ar y trac seiclo, gyda Lowe yn cipio medal efydd yn y ras nofio 100m pili-pala. Collodd James 2-0 yn y rownd derfynol i Anna Meares o Awstralia, ond trwch blewyn yn unig oedd ynddi yn yr ail ras wrth i'r gyn-bencampwraig Olympaidd frwydro'n ôl yn y pum metr olaf. Hon oedd ail fedal James yn y felodrom wrth i'r ferch 18 oed o'r Fenni ychwanegu at y fedal efydd yr enillodd ddydd Mawrth yn y ras 500m yn erbyn y cloc. "Mi nes i rasio'n well yn yr ail ras ac roedd hi'n agos iawn yn y diwedd, doeddwn i ddim yn siŵr pwy oedd wedi ennill," meddai James. "Mae hyn yn gam ymlaen i mi. Fy uchelgais yw cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Mae ennill medal arian ac efydd yn sicr wedi codi fy nisgwyliadau o'r hyn sy'n bosib." Daeth Lowe yn drydydd tu ôl i Alicia Coutts o Awstralia ac Ellen Gandy o Loegr yn y pwll nofio.
|