Gorffennodd Thomas, 19, yn drydydd tu ôl i Sean Fenning o Awstralia a Hayden Roulston o Seland Newydd.
"Rwyf wrth fy modd, mae hyn yn arbennig," meddai Thomas wrth Adran Chwaraeon 91Èȱ¬.
"Roeddwn wedi blino gymaint ond roedd rhaid i mi gadw mynd er bod pobl yn ymosod trwy'r amser.
"Rwyf mor falch o gael yr efydd, yn enwedig ar ôl y ddamwain llynedd," ychwanegodd.
Bu rhaid i Thomas gael llawdriniaeth giaidd wedi damwain erchyll wrth ymarfer ar gyfer cymal Sydney o Gwpan y Byd ym mis Chwefror 2005.
Dioddefodd anafiadau mewnol difrifol wedi rhywbeth ddisgyn oddi ar gefn lori gan chwalu olwyn flaen ei feic.
Disgynnodd cyn pencampwr iau'r byd yn drwm ar lyw ei feic a bu rhaid i feddygon dynnu ei sblîn.
Ac roedd hyfforddwr tîm beicio Cymru, Julian Winn, yr un mor hapus wedi'r ras.
"Rwyf mor falch dros Geraint, ac mae'r canlyniad heddiw yn profi faint o dalent sydd ganddo," meddai Winn.
|