Dyma oedd y trydydd tro yn olynol i'r Crysau Duon ennill yr aur ac nid ydynt wedi colli'r un gêm yn y gystadleuaeth ers ymddangosiad cyntaf y gamp yng Ngemau 1998.
Roedd Seland Newydd ar y blaen yn fuan yn y gêm, ond sgoriodd Mathew Tait gais gwych i Loegr wedi tair munud.
Sgoriodd Josh Blackie a Lote Raikabula i'r crysau duon, oedd ar y blaen o 15-7 ar yr egwyl.
Croesodd Andrew Vilk am gais cynnar i Loegr yn yr ail hanner i leihau'r fantais, ond chwalwyd eu gobeithion wrth i'r deiliad groesi am ddwy gais pellach.
Sgoriodd Ben Gollings gais hwyr i'r Saeson, sicrhaodd eu medal gyntaf erioed yn y gystadleuaeth.
Fiji enillodd y fedal efydd ar ôl curo Awstralia o 24-17 gyda Neumi Nanuku yn croesi am dair cais.
Ond taflwyd cysgod dros y gêm pan ddioddefodd Scott Fava o Awstralia anaf difrifol yn yr ail hanner.
Ar ôl colli yn erbyn Fiji yn rownd wyth olaf y brif gystadleuaeth, bu Cymru yn cystadlu yng nghystadleuaeth y plât.
Roedd Cymru yn fuddugol mewn rownd derfynol i'w chofio gan ennill o 29-28 ar ôl bod ar ei hôl hi o 14-0 ac 28-12.
Rownd Gyn Derfynol:
Seland Newydd 21-19 Awstralia
Yn y rownd gyn derfynol cyntaf llwyddodd Seland Newydd i gadw eu record 100% yn nghystadleuaeth 7-pob-ochr Gemau'r Gymanwlad.
Daeth y cais agoriadol gan Tamati Ellison cyn i Lote Tuqiri ymateb i'r tîm cartref.
Ond croesodd Cory Jane yn eiladau olaf yr hanner cyntaf i ymestyn mantais y Crysau Duon gyda Amesio Valence yn ychwanegu trydydd cais ar ddechrau'r ail hanner
Llwyddodd Joshua Gamgee i groesi o dan y pyst wedi'r eilydd gymryd cic gosb sydyn a charlamu trwy'r amddiffyn i gau'r bwlch i naw pwynt.
Ond er i Cameron Shepherd groesi ar y chwiban olaf i'r tîm cartref, llwyddodd Seland Newydd i ddal ymlaen a sicerhau eu lle yn y rownd derfynol.
Rownd Gyn Derfynol: Fiji 14-21 Lloegr
Llwyddodd Filimone Bolavucu i fanteisio ar bas lac capten Lloegr, Simon Amor, a chroesi o dan y pyst i roi prif ddetholion y byd ar y blaen wedi 15 eiliad yn unig.
Ond gwnaeth Amor yn iawn am ei gamgymeriad wrth garlamu drosodd i ddod â'r Saeson yn gyfartal dau funud yn ddiweddarach.
Yna yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, croesodd Mathew Tait am ei seithfed cais o'r bencampwriaeth yn dilyn gwaith da gan Henry Paul.
A casglodd chwaraewr Newcastle Falcons ei ail gais o'r gêm â rhediad hyfryd o'i llinell gais ei hun i sgorio o dan y pyst ac ymestyn mantais Lloegr.
Croesodd Apolosi Satal am gais yn yr eiliad olaf ond nid oedd yn ddigon i atal y Saeson rhag greu sioc.