Mae Williams yn hyderus o dymor llwyddiannus gyda Pencampwriaeth y Byd yn cael eu cynnal yn Daegu yn Ne Corea ym mis Awst. Erbyn y daw'r pencampwriaethau i ben fe fydd llai na blwyddyn nes bydd y Gemau Olympaidd yn dechrau yn Llundain. "'Dwi methu aros," meddai Williams, wrth edrych ymlaen at Gemau Llundain. "Mi fydd y teulu yn gallu dod i fy ngwylio ac yn 2008 fe wnes i golli'r Gemau Olympaidd oherwydd anaf. "Mae'n realiti nawr - does dim yn hir i fynd. "Ond tydw i ddim yn meddwl llawer amdano. Mae Pencampwriaeth y Byd y flwyddyn ac mae 'na lawer mwy i feddwl amdano." Cipiodd Williams arian yn y 400m dros y clwydi ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Barcelona y llynedd. Ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn bu'n rhaid iddo fodloni gydag efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi. Ei gyd-Gymro Dai Greene gipiodd yr aur yn y ddwy ras ac fe mae Williams wedi ei dargedu fel y dyn i'w guro.
|