Collodd y gwibwyr nawdd gan gronfa'r loteri ym mis Hydref y llynedd wrth i'r corff sy'n rheoli athletau ym Mhrydain benderfynu cefnogi athletwyr eraill. Ond profodd Malcolm ei fod yn parhau i fod ymysg goreuon y byd drwy ennill medal arian yn 200m ym Mhencampwriaethau Ewrop a medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad. O ganlyniad, mae'r Cymro wedi ei gynnwys ymysg y 96 athletwr fydd yn derbyn y cyfanswm uchaf o nawdd gan UK Athletics dros y 12 mis nesaf. "Mae'n rhaid i'r athletwyr brofi ei hunain drwy'r amser er mwyn gadw eu lle ar y cynllun, ac mae'n rhaid i ni brofi ein bod yn buddsoddi arian cyhoeddus y loteri mewn modd effeithiol," dywedodd brif hyfforddwr Athletwyr Prydain Charles van Commenee.
|