91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pontrhydfendigaid
Pafiliwn Bont Gŵyl Cerdd Dant Ystrad Fflur 2007
Yn Ionawr 2006 daeth gwahoddiad oddi wrth Gymdeithas Cerdd Dant Cymru i gynnal yr ŵyl ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid yn Nhachwedd 2007.

Mewn ymateb i hynny, daeth cynrychiolaeth gref i Lyfrgell Neuadd Pantyfedwen i gwrdd â Dewi Jones, trefnydd y gymdeithas, a phenderfynwyd yn unfrydol i dderbyn y gwahoddiad.

Cefndir
Ddeunaw mlynedd yn ôl y cynhaliwyd yr Ŵyl yn y Bont ddiwethaf, ac roedd yn hyfryd gweld nifer fawr o'r gweithwyr bryd hynny, yn ogystal â rhai newydd yn barod i ysgwyddo'r baich y tro yma. Roedd yr Ŵyl i fod i gael ei chynnal yn y pafiliwn rhyw chwe mlynedd yn ôl, ond difrodwyd yr adeilad gan dân, a dim adeilad arall addas ar gael yn y Bont. Gyda'r pafiliwn ar ei newydd wedd, roedd yna edrych ymlaen yn fawr am Ŵyl Gerdd Dant lewyrchus mewn pafiliwn moethus.

Dewis y pwyllgor gwaith
Y dasg gyntaf oedd i ddewis swyddogion y Pwyllgor Gwaith, ac fe enwebwyd Neli Jones, ysgrifennydd 1989 yn gadeirydd y pwyllgor y tro yma, gyda Dafydd Jones (y mascot' Meurig y Mynach' yn 1989) yn is-gadeirydd, Tegwen Jones yn drysorydd, a Joan Evans a Menna Jones yn gyd-ysgrifenyddion. Aed ati wedyn i ddewis swyddogion ar gyfer yr is-bwyllgorau, ac mae'r Pwyllgor Gwaith a'r is-bwyllgorau wedi bod yn ddiwyd iawn yn ystod y misoedd diwethaf, yn rhoi trefn ar bethau.

Prif waith y Pwyllgor Cyllid oedd i godi arian gan fod angen dros hanner can mil i gynnal yr Å´yl. Mae nifer o weithgareddau wedi eu cynnal trwy'r gwahanol bwyllgorau, ac hefyd gan bentrefi eraill y dalgylch, sef dalgylch y ddau bapur bro Y Barcud a Y Ddolen, gweithgareddau sydd wedi bod yn hwyl i'w trefnu a'r cymdeithasu wedi bod yn werth chweil, gan gynnwys noson 'Sion a Sian' yng nghwmni Dai Jones Llanilar a Jenny Ogwen yng ngwesty'r marine yn Aberystwyth.

Gwerthwyd nwyddau hefyd, yn fowlenni ffrwythau, powlenni cawl, llun gan yr artist Ogwyn Davies, a rhaw arbennig, sef 'Rhaw Aberaeron'.

  • Mwy am Å´yl Cerdd Dant Ystrad Fflur a'r fro, 2007



  • Trefi
    Radio Cymru
    Bws 91Èȱ¬ Cymru
    Lluniau


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý