Gwerthwyd 100 o luniau rhifedig a mowntiedig, wedi eu llofnodi gan yr artist, Ogwyn Davies, Tregaron.
Ganwyd Ogwyn Davies yn Nhrebanos, Cwm Tawe yn 1925 a symudodd i Dregaron hanner canrif yn 么l lle bu'n dysgu fel athro celf yn Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae ei luniau yn gyfarwydd i gasglwyr a mynychwyr arddangosfeydd ledled Cymru, lluniau sy'n creu naratif o Gymru drwy gyfrwng paent, geiriau, symbolau ac elfennau ffigurol.
Hwyrach mai ei lun enwocaf yw hwnnw o Soar y Mynydd, gyda geiriau emynau yn codi allan o'r muriau a'r to, gan hofran yn yr awyr. Saif ochr yn ochr 芒 'Salem' Curnow Vosper fel un o eiconau Cymru.
Prif nodwedd y darlun o'r gors yw'r lliwiau sy'n nodweddiadol o'r fangre, lliwiau brown, glas, melyn a llwyd. Mae'n llun argraffiadol sydd hefyd yn adlewyrchu elfennau haniaethol. Mae'r dewis o'r llun arbennig hwn yn un addas iawn fel lleoliad ac fel symbol gan fod Cors Caron ynghanol dalgylch yr 糯yl. Yn wir, mae'n ymylu'n ddaearyddol ar nifer o'r ardaloedd sydd o fewn dalgylch bro'r 糯yl.
Hoffai Pwyllgor yr 糯yl Cerdd Dant ddiolch i Ogwyn Davies, ac i berchennog y llun gwreiddiol, Dr Mair Beetham, Llundain (gynt o Dregaron) am eu caniatad caredig i atgynhyrchu a marchnata'r llun.
Y llun: Yr arlunydd Ogwyn Davies yn cyflwyno'r print cynta o'i lun o Gors Caron i Ian Huws, cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Chyhoeddusrwydd.
Mwy am yr 糯yl Gerdd Dant
|