"Redd y mur yn carcharu dwyrain Yr Almaen a ddwyrain Berlin, hefyd Ewrop y gorllewin ac Ewrop y dwyrain.
Tyfais i lan yn y saithdegau a'r wythdegau ger yr hen ffin yn y gorllewin mewn pentre bach Neu-Eichenberg yng nghanol y wlad, mwy neu lai.
Dim ond dwy filltir o ty fy rhieni oedd y llen haearn.
Edrychais ar y watchtowers o'r ffenestr. Mi oedd llawer o bobl yn cael ei lladd ger y ffin achos eu bwriad i ddianc.
Es i'r dwyrain cyn 1989 achos roedd gen i berthynasau ger Mühlhausen ac yn Erfurt.
Roedd gen i ffrind, Silke Damköhler, oedd yr un oedran a fi.
Doedd hi ddim yn gallu teithio i weld fi yn y gorllewin.
Felly, mi es i draw pan oeddwn i'n 13 am y tro cyntaf. Mi oedden ni'n chwarau gyda'n gilydd, seiclo, mynd i'r disco, mynd i'r siop Konsum.
Doedd dim llawer ar gael. Mi oeddech chi'n gorfod ciwio am gig ar ddydd Sadwrn ar gyfer eich cinio dydd Sul. Mi oedden ni'n ffrindiau da, Silke a finnau', rydyn ni'n dal i fod yn ffrindiau tan heddiw.
Mi oedd hi'n breudwyddio i deithio i'r gwledydd eraill. Nid oedd hi'n gomwnydd.
Anfonais i barseli bob Nadolig gyda siocledi a phethau oedd ddim ar gael yn yr rhan arall o'r Almaen.
Ges i anrhegion o'r dwyrain hefyd, sef llyfrau (fel llyfr Krabat o'r CSSR yn Almaeneg), gwlan, bisgedi cartref a phapur ysgrifennu.
Wrth gwrs, mae'r wal mewn pennau rhai bobl o hyd - ond dim gyda fi!
Mi oedd popeth yn digwydd mor gyflym. Redd y Cynghellor, Helmut Kohl, wedi cymryd drosodd.
Doedd e ddim yn gofyn beth oedd pobl eisiau. Mi oedd y gorllewin yn talu pris uchel am yr uned ar ol 1990.
Roedd pawb yn talu i ddweud y gwir. Mae'n iawn bod pobl yn y dwyrain yn ddi-waith nawr achos doedd dim di-weithdra ar gael yn y dwyrain - ond mi oedd yno llawer o swyddi di-werth.
Mi oedd ffatrioedd yn yr hen dwyrain yn llygru'r awyr.
Mae'r system iechyd yn yr Almaen yn dda - mae llawer o bethau wedi newid ar ol 1990 ond mae pawb yn cael eu trin.
Peidiwch ag anghofio yr anghyfiawnder cyn 1989, y Stasi (yr heddlu cudd). Roedd teuluoedd ar wahan."
Erthygl gan Annette Strauch.