Gwelir olion o ddyddiau cynnar y ddynoliaeth yng Nghymru yn yr ardal hon. Darganfuwyd bedd yn Llandysilio yn dyddio o 3000 C.C. Mae hen olion hefyd yn Llanrhaeadr.Yr oes efydd
Cafwyd olion, gan gynnwys bwyeill, drwy'r ardal. Mae'r gaer yng Nghroesoswallt yn perthyn i'r cyfnod yma. Mae olion magu anifeiliaid a thyfu gwenith a haidd.
Yr oes haearn
Mae sawl bryn-gaer- Collfryn, Llansanffraid; Derwlwyn, Llanfyllin; Craig Rhiwarth, Llangynog a Llangedwyn. Mae olion aredig a chloddio am gopr a haearn.
Rhufeiniaid
Bu caer dros dro yng Ngharreghofa a stordy nwyddau yn Llansanffraid. Credir iddynt doddi plwm yn Llanfyllin. Roedd y brodorion yn parhau i fyw yng Nghollfryn. Mae olion fferm yn Llandrinio ac ôl cloddio am gopr yn Llanymynech.
Oes y Saint
Yn nyffryn Tanad sefydlodd y brodyr Dogfan a Chynog eglwysi a sefydlodd Garmon eglwysi yn Llanfechain a dyffryn Ceiriog. Roedd merched yn cael eu priod le, gyda Melangell ymysg yr enwocaf, a Ffraid hefyd. Plant tywysogion oeddynt yn aml. Byddai clas lle trigai'r gymdeithas ger yr eglwys.
Oes y Tywysogion
Symudodd brenhinoedd Powys o Bengwern (Yr Amwythig) i Fathrafal, ger Meifod tua 765 O.C. Rhannwyd Powys yn 1160 gydag afon Rhaeadr yn ffin. Parhaodd hwn tan yr ad-drefniant olaf pan ddaeth dyffryn Tanad yn ôl i Bowys. Codwyd cestyll yn Llanfechain a Llanfyllin i amddiffyn y dywysogaeth.
Roedd gan Groesoswallt gastell ac roedd muriau i amddifyn y dref. Bu cryn ymladd ar y gororau ac roedd gan Owain Glyndŵr blas yn Sycharth ger Llansilin. Fe losgodd ef Groesoswallt fel rhan o'i ymgyrch.
Crefydd
Roedd Crynwyr yng Nghaeaubychain yn Llanwddyn ond mudo wnaethant i Bennsylvania yn America cyn 1700. Un o'r capeli hynaf yng Nghymru yw Pendref, Llanfyllin. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Pendref oedd yr enwad gyda'r mwyaf o aelodau yn Llanfyllin.
Roedd y Preisiaid o Blas Uchaf, Llanfyllin yn Gatholigion. Collasant eu hystad wrth dalu dirwyon am beidio mynychu'r eglwys. Arhosodd y brenin Siarl yno am noson ar ei ffordd i frwydr Caer.
Yn Llanrhaeadr ym Mochnant y cyfieithodd William Morgan y Beibl i'r Gymraeg ym 1588. Mae llwybr yn mynd trwy'r fynwent a thros yr afon at y fan lle roedd adeilad ganddo i wneud y gwaith.
Bu Ann Griffiths, Dolwar Fach, yn cyfansoddi emynau a gyhoeddwyd ar ôl ei marwolaeth gan John Hughes, Pontrobert. Cafodd ei thröedigaeth yn Llanfyllin.
Aeth John Davies o Lanfihangel i Tahiti yn y Môr Tawel yn genhadwr. Fe ddysgodd yr iaith frodorol a rhoddodd iddi iaith ysgrifenedig ffonetig, fel y Gymraeg.
Yn y ddeunawfed ganrif y bu tŵf yn nifer y capeli Presbyteraidd, Wesleaidd ac Annibynwyr. Ychydig o gapeli Bedyddwyr a godwyd.
Tlotai
Roedd un ym Morda, Croesoswallt ac un yn Llanfyllin. Roedd bywyd mor galed oddi mewn nes bod rhaid bod mewn cyfyng gyngor i fynd iddynt. Mae'r ddau wedi cau ac fe aeth Morda ar dân ugain mlynedd yn ôl. Mae'r Dolydd yn Llanfyllin yn segur ers blynyddoedd.
Addysg
Bu ysgolion teithiol Gruffydd Jones a rhai SPCK yn yr ardal. Agorodd teulu Plas Llwydiarth ysgolion yn Llanfyllin a Llanfihangel. Daeth eraill ar ôl deddf 1870. Agorwyd ysgol ramadeg yn Llanfyllin ym 1895 - ar ôl y gweddill yn Sir Drefaldwyn, gan fod teulu Plas Llwyn yn gwrthwynebu. Codwyd ysgol newydd ar Faes y Llwyn ym 1953.
Trafnidiaeth
Ffyrdd tila oedd cyn y ffyrdd tyrpeg a agorwyd o Lansanffraid i Langadfan a Llangynog. Roedd rhaid talu am fynd trwy'r llidiardau. Roedd tolldy yn Llansanffraid, dau yn Llanfyllin ac un ym Mhontllogel. Aeth y tollau ym 1886 pan roddwyd cyfrifoldeb am ffyrdd i'r cynghorau sir.
Agorwyd y gamlas drwy Carreghofa ym 1797 i gludo calch a nwyddau. Fe estynnwyd y gamlas i'r Drenewydd erbyn 1822. Ym 1861 agorwyd rheilffordd rhwng Croesoswallt a'r Trallwm.Dwy flynedd wedyn agorwyd lein Llanfyllin. Fe roddodd John Vaughan, twrne o Lanfyllin, £3000 tuag at godi lein Llanfyllin. Daeth ei ŵyr, Oliver Bullied, yn ben beirianydd y Southern Railway.
Bu tŵf aruthrol ym mhoblogaeth Croesoswallt ar ôl sefydlu pencadlys rheilffordd y Cambrian yno. Roedd y gwaith trwsio a chynnal a chadw'r cwmni yn cael ei wneud yng Nghroesoswallt. Erbyn heddiw amgueddfa fechan sydd ar ôl.
Codwyd lein fach o'r Waun i ddyffryn Ceiriog ym 1872 i gludo llechi a cherrig i lawr y dyffryn a glo a phowdwr i fyny. Cafwyd injans i dynnu'r tryciau a'r coetsys yn 1886. Caeodd ym 1935. Mae un goets i'w gweld yn Nhywyn yn gweithio ar lein Talyllyn. Agorwyd rheilffordd dyffryn Tanad ym 1904. Fe ddaeth y lein yn rhy hwyr i fod o gymorth i'r diwydiant plwm a'r chwareli llechi. Mae darn bach ar ôl o Lanyblodwel i Groesoswallt sydd yn segur ar hyn o bryd.
Diwydiant
Roedd ffatrïoedd gwlân yn Llanwddyn, Penybontfawr, Llanfyllin a dyffryn Ceiriog. Codwyd plwm yn Llangynog rhwng 1692 a 1916. Roedd chwareli llechi yn Llangynog a dyffryn Ceiriog. Chwarel Wynne, y Cambrian a'r Hendre oedd y rhai mwyaf. Roeddynt oll wedi cau erbyn 1950. Roedd gwaith calch ym Mronygarth a Phorthywaen. Mae gwaith Crugion yn dal i godi cerrig. Bu pyllau glo yn ardal y Waun a Chroesoswallt. Mae trigolion dyffryn Ceiriog yn gweithio yn Kronospan a Cadbury's yn Y Waun. Mae ffatrïoedd yng Nghroesoswallt a Llanfyllin. Mae amaeth yn dal i gynnal sawl teulu yn yr ardal.
Coedwigaeth
Plannwyd llawer o goed yn Llanwddyn ar ôl y Rhyfel Mawr. Mae yno dros bum mil o gyfeiriau dan goed erbyn heddiw. Mae coedwigaeth yn rhoi gwaith yn nyffryn Ceiriog hefyd.Mae deorfa bysgod ym Mhontfaen ger Y Waun sy'n dal i fynd ers dechrau'r ganrif ddiwethaf.
Diwylliant
Bu'r beirdd yn canu clod i deulu Plas Llwydiarth yn yr oesoedd canol. Bu llawer yn cyfansoddi carolau'r blygain. Ymysg llenorion yr ardal oedd Gwallter Mechain, Myllin, John Ceiriog Hughes a Glyn o Faldwyn. Roedd Gwallter Mechain yn ysgrifennu traethodau.Claddwyd Huw Morris, "Eos Ceiriog," yn Llansilin.Ganwyd Ceiriog ym Mhen-y-bryn, Llanarmon, ym 1832. Bu'n reolwr Rheilffordd y Fan, Caersws. Pa Gymro neu Gymraes sydd heb ganu "Nant y mynydd"? Fe'i claddwyd yn Llanwnog ger Caersws.
Codwyd neuadd Goffa Ceiriog ym 1911. Casglwyd £36 ym Mhatagonia ac fe brynwyd dodrefn derw i'r llyfrgell a'r ystafell ddarllen gyda'r arian hwn. Mae ffenestri lliw hardd gan y neuadd. Mae'n parhau i gael ei defnyddio yn gyson.
Glyn Evans