Brenin Gwynedd oedd Math. Ni fyddai byw heb fod ei draed yng ngh么l morwyn, oni bai ei fod yn rhyfela. Ei droedog oedd Goewin, y ferch yr oedd Gilfaethwy yn ei charu. Cynlluniodd Gwydion, y dewin, ryfel rhwng Gwynedd a Deheubarth er mwyn i Math adael y llys.
Treisiodd Gilfaethwy Goewin tra oedd Math yn rhyfela. Lladdwyd milwyr di-rif mewn brwydr anferthol ei maint, ac yna lladdwyd Pryderi, brenin Deheubarth.
Daeth Math adref o'r rhyfel a chlywed stori Goewin. Gwnaeth Math iawn iddi drwy ei phriodi. Cosbodd Gilfaethwy a Gwydion drwy eu troi'n geirw am flwyddyn, yn foch am flwyddyn, ac yn fleiddiaid am flwyddyn, a chawsant epil gyda'i gilydd bob blwyddyn. Yna trowyd y ddau yn 么l yn ddynion, a'u hepil yn blant, ac aethant yn 么l i fyw i'r llys at Math.
Daeth Arianrhod i'r llys un diwrnod a gadael babi yno. Magodd Gwydion ef am bedair blynedd. Cas芒i Arianrhod y bachen a thyngodd na ch芒i fyth enw nac arfau, ac na fyddai dim un ferch ar y ddaear yn ei briodi. Er gwaethaf bygythion Arianrhod llwyddodd Gwydion i gael enw i'r bachgen - Lleu Llaw Gyffes - a'i arfogi'n filwr.
Gan nad oedd neb ar y ddaear yn fodlon ei briodi casglodd Gwydion flodau'r deri, banadl, ac erwain, a swyno ohonynt ferch brydferth o hud a lledrith. Galwyd hi'n Blodeuwedd. Priododd Lleu hi a mynd i fyw i Ardudwy.
Pan oedd Lleu i ffwrdd gwelodd Blodeuwedd Gronw Pebr yn hela hydd. Croesawodd ef i'r llys a syrthiodd mewn cariad ag ef. Dymunai ei briodi.
Gwyddai Blodeuwedd y byddai'n anodd lladd ei g诺r. Dim ond un ffordd y gallai Lleu farw, ac roedd hynny'n gyfrinach. Cymerodd arni ei bod am wybod ei gyfrinach er mwyn ei ddiogelu rhag perygl.
Sibrydodd Lleu wrthi y byddai'n rhaid i'r llofrudd dreulio blwyddyn yn gwneud picell, heb wneud dim ohoni ond yn ystod yr offeren ar ddydd Sul. Pan fyddai Lleu yn ymolchi ar lan afon mewn baddon a tho arno, ac un droed iddo ar ymyl y baddon a'r llall ar gefn bwch, petai rhywun yn ei daro 芒'r bicell byddai'n marw.
Lluniodd Gronw bicell a tharo Lleu 芒 hi. Sgrechiodd Lleu sgrech erchyll, trowyd ef yn eryr, ac ehedodd i ffwrdd.
Priododd Gronw a Blodeuwedd, a thristaodd Gwydion yn fawr. Aeth i Arfon i chwilio am Lleu, a chlywodd fod hwch taeog ym Maenor Bennardd yn dianc o'r twlc bob nos. Dilynodd Gwydion hi at f么n coeden. Ar ei brig roedd eryr. Canodd Gwydion englynion iddo i geisio ei ddenu i lawr. O'r diwedd disgynnodd yr eryr ar lin Gwydion a chyffyrddodd y dewin ynddo 芒'i hudlath.
Lleu yn wir ydoedd, ac edrychai'n druenus o denau. Dan law meddygon gorau Gwynedd, ymhen blwyddyn roedd yn holliach. Rhoddodd Lleu ei fryd ar gosbi Gronw a Blodeuwedd.
Dihangodd Blodeuwedd a'i morynion i'r mynydd, gan edrych yn 么l i weld a oedd Lleu yn eu dilyn. Ni welodd neb y llyn oedd o'u blaenau a boddodd pawb ond Blodeuwedd. Daliodd Gwydion hi a'i throi'n dylluan. Gorchmynnodd nad oedd hi i ddangos ei hwyneb liw dydd fyth eto, ac y byddai'r adar eraill yn ei chas谩u a'i churo bob tro y gwelent hi. Dyna fyddai ei chosb.
Yna cosbwyd Gronw drwy ei orfodi i sefyll yn yr un lle ag oedd Lleu yn sefyll pan gafodd ei daro 芒'r bicell, a gadael i Lleu daflu picell wenwynig ato ef. Cafodd Gronw roi carreg rhyngddo ef a Lleu. Anelodd Lleu ei bicell yn ofalus. Hyrddiodd hi 芒'i holl nerth nes iddi fynd drwy'r garreg a thrwy asgwrn cefn Gronw a'i ladd yn gelain gorn.
Mwy
Cysylltiadau'r 91热爆
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.