Pan fo'r llanw'n isel, gwelir olion coedwig hynafol ar hyd yr arfordir rhwng Tywyn ac Aberdyfi, i'r gogledd o Aberystwyth.
Mae bonion coed a gwreiddiau o'r tir hwn yn dal i'w cael ymhlith y cloddfeydd mwyn canoloesol yn y cyffiniau. Fe all mai hon oedd ardal tiroedd coll y Cantre'r Gwaelod chwedlonol.
Ceir sawl fersiwn o'r stori am sut yr hawliwyd yr ardal hon gan y m么r. Tan tua'r 17eg Ganrif, enwyd y tir coll yn 'Maes Gwyddno'. Dywed y chwedl gynnar hon i'r tir gael ei foddi pan ganiataodd offeiriades ffynnon y tylwyth teg i'r d诺r orlifo.
Ond enw'r tir yn y chwedl sy'n gyfarwydd inni heddiw yw Cantre'r Gwaelod - tir sy'n ymestyn rhyw 20 milltir i'r gorllewin o'r arfordir presennol i fewn i'r hyn a elwir heddiw yn Fae Ceredigion.
Yn nyddiau'r chwedl, c芒i'r ardal hon ei rheoli fel rhan o Deyrnas Meirionydd gan Gwyddno Garanhir, a anwyd tua 520 OC.
Dywedir bod y tir hwn yn hynod ffrwythlon, gymaint felly nes yr ystyriwyd un erw yma yn werth pedair erw yn unrhyw le arall. Y broblem oedd bod y tir yn dibynnu ar forglawdd i'w amddiffyn rhag y m么r. Roedd llifddorau yn y morglawdd a g芒i eu hagor ar lanw isel i ddraenio d诺r o'r tir, a'u cau wrth i'r llanw godi.
Y drychineb
Roedd y gwyliwr penodedig, Seithennyn, a oedd yn yfwr trwm ac yn gyfaill i'r Brenin, mewn parti ym mhalas y Brenin ger Aberystwyth. Mae rhai yn dweud iddo syrthio i gysgu oherwydd iddo yfed gormod o win neu ei fod yn rhy brysur yn cael hwyl i sylwi ar y storm ac i gau'r llifddorau.
Cafodd gatiau'r d诺r eu gadael ar agor, a rhuthrodd y m么r i mewn i foddi tir y Cantref, gan foddi dros 16 o bentrefi. Llwyddodd y Brenin a rhai o aelodau ei lys i ddianc trwy redeg i ddiogelwch ar hyd Sarn Cynfelin; gorfodwyd i Gwyddno Garanhir a'i ddilynwyr adael y tir isel ac ennill bywoliaeth dlotach ar fynyddoedd ac yn nyffrynnoedd Cymru.
Y ddiod ar fai?
Mae fersiwn arall, mwy masweddus, yn mynnu mai Brenin lleol ar ymweliad oedd Seithennyn, a oedd, ar adeg y storm, 芒'i fryd ar ddal sylw'r forwyn brydferth Mererid, oedd yng ngofal y llifddorau. Gan i Seithennyn fod yn llwyddiannus yn ei berwyl, doedd Mererid, felly, ddim yn gallu cau'r gatiau, a boddwyd y tir.
Boddi Maes Gwyddno (pedair pennill gyntaf)
Seithennin, saf-di allan,
ac edrychwyr-di faranres
m么r. Maes Gwyddnau ryd枚es.
Boed emendigaid y forwyn
a'i hellyngawdd gwedi cwyn,
ffynnon fynestr m么r terwyn.
Boed emendigaid y fachdaith
a'i gollyngodd gwedi gwaith,
ffynnon fynestr m么r diffaith.
Diaspad Fererid y ar fan caer;
hyd ar Dduw y'i dodir.
gnawd gwedi traha dranc hir.
Anhysbys, Llyfr Du Caerfyrddin 1250
Un noson, yn 么l y stori, tua 600 OC, fe gododd storm o'r de-orllewin, gan yrru llanw'r gwanwyn yn erbyn y morglawdd.
Mae'r chwedl wedi ysbrydoli nifer o gerddi a chaneuon drwy'r oesau. Credir iddi gael ei chrybwyll gyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin, llyfr a ysgrifennwyd 750 o flynyddoedd yn 么l, yn 1250. Cynhwysai gerddi a deunydd llawer h欧n, yn ymwneud 芒 digwyddiadau o ganrifoedd ynghynt, gan gynnwys cerdd am Cantre'r Gwaelod.
Enw'r gerdd yw "Boddi Maes Gwyddno", ac mae'n rhoi'r fersiwn gynnar o'r stori lle mae'r forwyn Mererid yn gyfrifol am beidio 芒 chau'r gatiau, gan adael i'r dilyw foddi'r tir. Mae'n un o'r enghreifftiau gorau o farddoniaeth ganoloesol Gymraeg, yn cynnwys tribannau tynn a chynnil gydag odl fewnol a chynghanedd.
Pa fersiwn bynnag o'r chwedl a ddewiswch, fe ddywedir, os gwrandewch chi'n astud, y gallwch glywed clychau'r ddinas goll yn canu o dan y d诺r, yn enwedig ar foreau Sul tawel, ac yn arbennig os ydych chi yn Aberdyfi, sy'n enwog mewn chwedloniaeth Gymreig, fel y lle agosaf ar dir sych i Gantre'r Gwaelod.
Daeth y g芒n 'Clychau Aberdyfi' yn boblogaidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn neuaddau cyngerdd.