Dau frawd oedd Lludd a Llefelys. Daeth y naill yn frenin Ynys Prydain a'r llall yn frenin Ffrainc. Ailgododd Lludd ddinas Llundain fel ei bod ymysg dinasoedd harddaf y byd gyda thyrau dirifedi ynddi a thai moethus, a gwnaeth ei gartref yno.
Lludd oedd y brenin dewraf o'r brenhinoedd i gyd, a'r un mwyaf hael a chroesawus a fu erioed. Ond roedd tair problem yn poeni Lludd a'i bobl.
Cenedl y Coraniaid oedd y broblem gyntaf. Pobl estron oedd wedi ymsefydlu yn y wlad oedd y Coraniaid, ac yr oeddynt yn gormesu'r bobl gynhenid.
Roedd yn amhosibl cael gwared arnynt gan eu bod yn gallu clywed popeth, hyd yn oed y sibrydiad lleiaf. Gallent glywed pob manylyn o bob cynllun i'w dinistrio.
Yr ail broblem oedd sgrech annaearol oedd yn rhwygo'r wlad bob nos Calan Mai gan ddychryn y Cread i'w sail. Ar s诺n y sgrech roedd y dynion i gyd yn gwelwi, y merched i gyd yn erthylu, y plant yn gwallgofi, a'r anifeiliaid yn mynd yn ddiffrwyth. Ond sgrech pwy oedd y sgrech frawychus hon?
Bwyd oedd y drydedd broblem. Ni waeth faint o fwyd a diod a fyddai ar fwrdd y Brenin Lludd, ar 么l y wledd byddai popeth yn diflannu. Ond pwy oedd y lleidr? Os lleidr hefyd.
Ar gyngor unfrydol ei bendefigion hwyliodd Lludd draw i Ffrainc i ofyn cyngor ei frawd ynghylch sut i ddatrys y problemau hyn. Rhag i'w sgwrs gario ar y gwynt yn 么l i Gymru, a rhag i'r Coraniaid ddeall bod Lludd a Llefelys yn cynllwynio yn eu herbyn, gwnaeth Brenin Ffrainc gorn hir o efydd er mwyn iddo fedru sgwrsio 芒'i frawd drwyddo heb i neb eu clywed.
Ond roedd cythraul slei wedi mynd i mewn i'r corn a dechreuodd hwnnw greu helynt a drysu'r ymgynghoriad. Bu'n rhaid golchi'r corn 芒 gwin er mwyn ei buro, a dim ond wedyn y cafodd y ddau frawd sgwrsio'n ddidrafferth.
Ymhen dim o dro cafwyd ateb i bob problem. Dychwelodd Lludd adref i weithredu'r tri chynllun beiddgar, a cheisio datrys y tair problem.
Dechreuodd gyda'r Coraniaid. Gwyddai Llefelys y byddai potes o bryfed hudol o Ffrainc, wedi eu malu'n llwch a'u cymysgu 芒 d诺r rhinweddol, yn difa cenedl y Coraniaid. Ac felly y bu.
Casglodd Lludd bawb yn y deyrnas i un man, a chwistrellu'r cymysgedd dros bawb yn ddiwah芒n. Gwenwynodd y d诺r genedl y Coraniaid, ond ni laddodd ac ni niweidiodd y d诺r neb o'r Cymry cynhenid.
Dwy ddraig yn ymladd 芒'i gilydd oedd wrth wraidd y dirgelwch am y sgrech ddieflig a 芒i at galon y Cread bob nos Calan Mai. Yn unol 芒 chyngor Llefelys, palodd gw欧r Lludd dwll enfawr yng nghanol Ynys Prydain. Gosodwyd casgen o'r medd gorau y gellid ei fragu yn y deyrnas ynddi, a'i gorchuddio 芒 defnydd sidan.
Ar 么l ymladd yn galed, disgynnodd y dreigiau i'r twll, yfed y medd, a chysgu fel dau dwrch. Rhwymodd Lludd hwy yn y defnydd sidan a'u carcharu'n dawel ym mynyddoedd Eryri.
Parat么dd Lludd wledd i ddathlu carchariad y dreigiau. Ar 么l bwyta ac yfed, chwerthin a dawnsio, gwyliodd Lludd weddillion y wledd drwy oriau'r nos dywyll. Dyma ddyn arfog anferth, gyda chawell mawr yn ei law, yn dod i ddwyn y bwyd.
Cydiodd Lludd ynddo, ac ymladdodd y ddau yn ffyrnig nes bod gwreichion yn tasgu o'u harfau. Lludd oedd yn fuddugol! 'Fe dalaf i'n 么l bopeth rwyf wedi ei ddwyn oddi arnat - a mwy,' meddai'r lleidr.
A dyna sut y datrysodd Lludd y problemau oedd yn poeni Ynys Prydain.
Mwy
Cysylltiadau'r 91热爆
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Chwedlau Myrddin
Straeon a gemau
Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.