"Mae'r ffordd yn hir i Ffair y Llan
A'm poced innau'n llawn,
Ond pe bai'n hirach fyth mi wn
Mai tuag yno'r awn."
Bydd ffeiriau cyntaf yr haf fel arfer yn cychwyn fis Mai. Mae'r ffeiriau fel yng Nghricieth a'r Bala wedi bodoli ers canrifoedd, ac yn dal i fod yn boblogaidd iawn. Erstalwm roedd pobl yn dod 芒'u hanifeiliaid i'w gwerthu a byddai'n ddiwrnod i brynu nwyddau a chymdeithasu. Heddiw, gwelir stondinau'n gwerthu dillad rhad, teganau a phethau i'r cartref. Hefyd yn aml bydd ffair bleser i'r ifanc ar safle cyfagos.
Ffeiriau oedd yn draddodiad poblogaidd yng Nghymru erstalwm oedd Ffeiriau Pentymor.
Symud Ffair gyflogi y Cei Newydd o lwybr Pengeulan i Heol yr Eglwys. Weision a morynion, o bell ac agos, os mynnwch gyfarfod a llawer o ffermwyr mwyaf cyfrifol ein gwlad o'r Nantymawr i'r Morfa Mawr, o lan m么r Ceinewydd i lan Teifi, cofiwch fod ar yr heol uchod yn brydlon ar y 12fed o Dachwedd, 1851. O'r Star Inn hyd lan y m么r cewch ddigon o le a chysgod rhag y gwynt a'r glaw os bydd eisiau. Ni chaiff neb mwy achos i gwyno am le cyfleus i gynnal y Ffair uchod. - Cyfaill.
Poster yn hysbysu Ffair Cei Newydd yn 1851. Gemau o Bant a Bryn, D.J Morgan.
Bwriad cynnal y ffeiriau yma oedd i ffermwyr chwilio am weision a morynion i weithio ar eu ffermydd. Roedd hefyd yn gyfle i weithwyr allu newid eu cyflogwr os oedden nhw'n cynnig telerau gwell.
Yr arferiad oedd cynnal y ffeiriau yma ym mis Mai ac yn Nhachwedd, felly roedd natur y gwaith yn amrywio oherwydd y newid yn y tymor.
Byddai disgwyl i'r gweision gwblhau gwaith yr haf ar y ffermydd, fel cneifio, torri gwair, cynaeafu a hel tatws. Gwaith morynion fferm fyddai tasgau fel godro, golchi dillad, gwneud y gwl芒u, pobi a pharatoi ar gyfer prydau bwyd.
Dyma ddarn yn yr Herald Gymraeg mis Mai 20 1902 am Ffair Pentymor ym Mhwllheli.
"Yr oedd cynnulliad i'r ffair ddydd Mawrth yn hynod luosog. Yr oedd y cyflogau fel y canlyn, er yn uwch i raddau yn Eifion nac yn Lleyn: - Dosparth blaenaf o weision, 15p i 18p; ail ddosparth o 11p i 14p; bechgyn o 7p i 10p; merched, y dosparth blaenaf, o 6p i 8p; ail ddosparth o 4p i 6p."
Roedd y ffair yn gyfle i ffermwyr allu talu eu dyledion, a siawns i'r gweision a morynion gael mymryn o ryddid a hwyl ar 么l gweithio'n galed dros y gaeaf!