Ar Hydref 24 mae h诺yl a sbri'n dal i ddod i Borthaethwy bob blwyddyn, os nad yw'n ddydd Sul - bryd hynny cynhelir y ffair ar Hydref 23 neu 25. Dyma Mary Lloyd Hughes i s么n am hanes un o ffeiriau mwy poblogaidd yr ardal.
Roeddent yn arfer galw Ffair Borth yn Ffair yr Esgob a byddai'n cael ei chynnal ochr draw i'r Fenai. Ond mae'n rhaid eu bod wedi penderfynu bod o'n haws cadw'r anifeiliaid ar yr ynys, ac felly cynhaliwyd pedair ffair y flwyddyn ym Mhorthaethwy.
Ffair yr hydref oedd yr un mwyaf poblogaidd gan mai dyna'r un sy'n parhau hyd heddiw.
Roedd yn enwog fel ffair ceffylau. Dwi'n cofio clywed am aelod o deulu'r g诺r yn prynu ceffyl yn y ffair - mi gafodd o adra, gollyngodd y ceffyl yn rhydd yn y cae a gwelodd byth mohono eto!
Yn ogystal 芒 bod yn ffair geffylau, roedd o hefyd yn ffair cyflogi, lle y byddai'r ffermwyr yn chwilio am weision newydd. Dwi'n cofio pobl yn s么n am ffeindio job yn y ffair, a dwi yn fy chwedegau felly mae'n rhaid nad oedd mor bell yn 么l a hynny.
Mae'r ffair wedi altro gymaint. Ges i fy ngeni yn ystod y rhyfel pan roedd pethau'n ddigon prin a byddai'r ffair yn dod 芒 thipyn o liw, thwrw a h诺yl i'r ardal. Roedd o mor gynhyrfus i ni fel plant, mwy nag i blant r诺an efallai gan eu bod yn cael digon o gyffro trwy'r amser.
Dwi'n cofio prynu tocyn efo enw arno, wedyn byddai'r peiriant 'ma yn mynd i fyny ac i lawr cyn stopio ar un enw arbennig - os roedd yr enw yna ar eich tocyn, byddech yn ennill gwobr. Mi ddaru mam ennill dol i mi unwaith a dwi dal efo hi hyd heddiw.
Roeddwn i a fy ffrind ddoe yn s么n am stondinau striptease! Roeddent yn dynfa fawr i'r bechgyn ifanc. Fues i erioed tu fewn iddynt wrth gwrs ond dwi'n cofio gweld y merched a chlywed y miwsig yn chwarae'n uchel - fel Pretty Woman gan Roy Orbison yn mynd full speed! Roedd y babell bocsio yn boblogaidd hefyd wrth iddo symud o ffair i ffair ledled y wlad.
Byddai'r myfyrwyr o'r Coleg Normal a Phrifysgol Bangor yn dod draw hefyd ac roedd yna wastad cystadlu rhyngddynt! Dim cwffio fel y cyfryw, ond byddai unrhyw helynt yn cael ei beio ar y myfyrwyr druan.
Dwi'n cofio reidio ar yr Hobby Horses hefyd - roeddent mor dlws er braidd yn hen ffasiwn. Dwi'n sb茂o allan o'r ffenestr arnynt yn adeiladu'r reids modern r诺an ac maen nhw mor high-tech erbyn heddiw.
Dwi dal yn hoff iawn o'r ffair - mae'n dal i wneud Borth yn wahanol i bobman arall am un ddiwrnod y flwyddyn. Fel un sy'n cadw siop yma yn y pentref da ni yn gweld colled y maes parcio sy'n cau am bythefnos yn ystod y ffair ac mae hynny yn rhoi rheswm i rai gymryd yn ei erbyn ond mae'n hen draddodiad.
Dwni ddim faint o fusnes mae o'n dod i'r sefydliadau lleol - mae o'n ddigon hunangynhaliol, gyda phawb yn prynu hot dogs o'r stondinau ond o leiaf mae o'n bywiogi'r lle am gyfnod.
Mary Lloyd Hughes.