| |
|
|
|
|
|
|
|
Tachwedd 2007 Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o werthwyr gorau'r mis
Dau gofiant rygbi sydd uchaf ar restr Cyngor Llyfrau Cymru o werthwyr gorau mis Tachwedd 2007 - a'r rheini ymhlith pump o gofiannau sydd ar y rhestr o ddeg.
Ar ben y rhestr mae cofiant Gareth Edwards - Y Crwt o'r Waun - yng nghyfres y Cewri.
A thu fâs iddo, fel petai, mae Stephen Jones gyda'i ddyddiadur rygbi, O Clermont i Nantes.
Eraill y mae eu cofiannau ar y rhestr yw'r actores Gillian Elisa, y 'ferch tywydd' a chyflwynydd teledu, Jenny Ogwen a'r gantores Heather Jones.
Hyn oll yn adlewyrchiad y duedd darllenwyr Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf i gythru am lyfrau sy'n rhoi hanes pobl.
Dwy nofel sydd ar y rhestr a'r rheini gan y ddau hogyn drwg diweddaraf, Llwyd Owen a Dewi Prysor a'r disgwyl yw y bydd mynd mawr ar y ddwy gyfrol rhwng hyh a'r Nadolig.
Gyda'r holl sylw a gafodd adeg ei chyhoeddi byddai'n syndod pe na byddai'r casgliad o straeon erotig Tinboethgan naw o ferched ar y rhestr - ond tybed faint o ddarllenwyr gaiff eu siomi?
1. Cyfres y Cewri: 31. Y Crwt o'r Waun, Gareth Edwards
(Gwasg Gwynedd) 9780860742425 £7.95
2. Stephen Jones - O Clermont i Nantes, Stephen Jones & Lynn Davies
(Y Lolfa) 9781847710161 £8.95.
3. Cyfres y Cewri: 32. Hyd yn Hyn, Gillian Elisa
(Gwasg Gwynedd) 9780860742432 £7.95
4. Yr Ergyd Olaf, Llwyd Owen
(Y Lolfa) 9781847710116 £7.95
5. Glaw a Hindda, Jenny Ogwen
(Gwasg Gomer) 9781843238850 £7.99
6. Gwrando ar fy Nghân - Heather Jones, Heather Jones & Caron Wyn Edwards
(Dref Wen) 9781855967793 £9.99
7. Tinboeth, gol. Bethan Gwanas
(Gwasg Gwynedd) 9780860742449 £5.95
8. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Sir Gâr, Peter Hughes Griffiths
(Y Lolfa) 9781847710017 £4.95
9. Madarch, Dewi Prysor
(Y Lolfa) 9781847710109 £7.95
10. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Idris a Charles, Idris Charles
(Y Lolfa) 9781847710024 £4.95
LLYFRAU PLANT 1. Un Noson Oer, M. Christina Butler
(Gwasg Gomer) 9781843238089 £4.99
2. Pwy sy'n Dŵad..., J. Glyn Davies
(Dref Wen) 9781855967786 £4.99
3. Coeden Nadolig, Dawn Sirett
(Gwasg Gomer) 9781843238379 £3.99
4. Trên Mawr Glas, Julia Jarman
(Gwasg Gomer) 9781843238843 £4.99
5. Anturiaethau Sali Mali: 3. Sali Mali a'r Hwdi Chwim, Dylan Williams
(Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120665 £4.99
6. Hosan Nadolig, Dawn Sirett
(Gwasg Gomer) 9781843238386 £3.99
7. Tractors Gwych!, Dawn Sirett
(Dref Wen) 9781855967755 £7.99
8. Dwi'n Dweud "Mw!", Georgie Birkett
(Dref Wen) 9781855967687 £3.99
9. Dwi'n Dweud "Wff!", Georgie Birkett
(Dref Wen) 9781855967694 £3.99
10. Nadolig Llawen y Blaidd Mawr Drwg, Morgan Tomos
(Y Lolfa) 9780862439965 £2.95
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91Èȱ¬ Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|