91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
gwerthu'n dda gwerthu'n dda
Medi 2007
Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau sy'n gwerthu orau
Yn amlwg mae Gwasg Carreg Gwalch wedi taro ar wythïen boblogaidd iawn gyda'r trydydd yn awr o lyfrau natur wedi ei gyhoeddi mewn cysylltiad â Iolo Williams.

Eisoes cyhoeddwyd gydag ef addasiad Cymraeg o un o'r llyfrau poced gorau sydd ar gael am adar a thoc wedyn cyhoeddwyd un arall tebyg am flodau gwylltion.

Yn awr, mae Llyfr Natur Iolo yn cwmpasu nid yn unig y ddau faes hwnnw ond holl gwmpas byd natur o drychfilod i famaliaid ac o goedydd i frwyn a glaswellt!

Y cyfan wedi ei argraffu ar bapur sglein gyda lluniau o'r radd flaenaf a chwta dwy neu dair brawddeg o eglurhad cryno am bopeth a ddarlunnir.

"Dyma hoff lyfr natur Iolo Williams a'i ddewis personol ef ar gyfer ei addasu i'r Gymraeg," meddir ar y clawr ac er yn £14.50 bydd yn siŵr o dderbyniad gwresog. Mae eisoes ar ben rhestr werthu y Cyngor Llyfrau ar gyfer Medi.

Cyfres newydd sydd i'w gweld am y tro cyntaf yw un ddeniadol dros ben o fonograffau gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion.

Awdur monograff am Rhy Gethin, un o gadfridogion Glyndŵr ydi Cledwyn Fychan ac y mae Dylan Iorwerth yn olrhain hanes y cymeriad rhyfeddol, John Griffith 'Y Gohebydd'.

O argraffiad cain mae'n amlwg fod llygad y cyhoeddwyr ar gasglwyr cyfresi.

A chan bori yn yr un tir mae'r wasg yn cyhoeddi llyfr gan E Wyn James yn trafod agweddau ar y portread o Owain Glyndŵr yn llenyddiaeth y cyfnod modern - Glyndŵr a Gobaith y Genedl

A chan Wasg Gomer mae cyfrol am Lyndŵr yn y gyfres Cip ar Gymru yn wythfed ar y rhestr.

Dyma'r rhestr gyflawn o werthwyr Medi:

1. Llyfr Natur Iolo, Paul Sterry. Addasiad Iolo Williams a Bethan Wyn Jones. (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845271312 £14.50

2. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pws, Dewi Pws Morris (Y Lolfa) 9780862439972 £3.95

3. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Pontshân, Eirwyn Pontshân (Y Lolfa) 9780862439767 £3.95

4. Pwy oedd Rhys Gethin? Yr Ymchwil am Gadfridog Owain Glyndŵr, Cledwyn Fychan (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120580 £6.99

5. Gohebydd yng Ngheredigion yn Ystod y Flwyddyn Fawr - Hanes John Griffith (Y Gohebydd) ac Etholiad 1868, Dylan Iorwerth (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120573 £6.99

6. Rhoi Cymru'n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru, Richard Wyn Jones (Gwasg Prifysgol Cymru) 9780708317563 £18.99

7. Glyndŵr a Gobaith y Genedl: Agweddau ar y Portread o Owain Glyndŵr yn Llenyddiaeth y Cyfnod Modern, E. Wyn James (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120641 £9.99

8. Cyfres Cip ar Gymru / Wonder Wales: Owain Glyndŵr, Aeres Twigg (Gwasg Gomer) 9781859029046 £2.99

9. Lle i Enaid Gael Llonydd ... ?, Robert M. Morris (Clwb y Bont) 8888048596 £4.00

10. Codi'r Cwpan (Cyhoeddiadau'r Gair) 9781859945872 £0.99

LLYFRAU PLANT
1. Dot-i-Ddot Deinosoriaid, Karen Bryant-Mole (Dref Wen) 9781855967526 £3.99

2. Dot-i-Ddot Byd Natur, Karen Bryant-Mole (Dref Wen) 9781855967533 £3.99

3. Un Noson Oer, M. Christina Butler (Gwasg Gomer) 9781843238089 £4.99

4. Tractors Gwych!, Dawn Sirett (Dref Wen) 9781855967755 £7.99

5. Hwyl Môr-Ladron: Pethau i'w Gwneud, Rebecca Gilpin (Dref Wen) 9781855967557 £4.99

6. Owain yn Mynd i'r Ysgol, Ian Whybrow (Gwasg Gomer) 9781843238539 £4.99

7. Llyfrau Poced: Tomos a'i Ffrindiau: Persi'n Chwarae Triciau (Dref Wen) 9781855967700 £4.99

8. Siwan yn Mynd i Sglefrio, Ian Whybrow (Gwasg Gomer) 9781843238096 £4.99

9. Elfed a'r Enfys, David McKee (Dref Wen) 9781855967663 £4.99

10. Olion yn yr Eira, Mei Matsuoka (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120658 £5.99




























Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91Èȱ¬ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý