|
Wynford Ellis Owen Holi awdur Raslas Bach a Mawr
Enw: Wynford Ellis Owen
Beth yw eich gwaith? Actor, awdur, sgriptiwr rhaglenni teledu a chynhyrchydd.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Gwas bach yn ffermydd: y Foel, Llanllyfni a Hendre Cennin, Brynengan, pan oeddwn yn blentyn ysgol. Gweithio ar y bysus yn Y Rhyl tra'n fyfyriwr. Gweithio fel is reolwr llawr gyda'r 91热爆 am ddeunaw mis wedi gadael y coleg.
O ble ydych yn dod? O Lansannan yn yr hen Sir Ddinbych yn wreiddiol. Symudais i Lanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon pan yn saith oed.
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Yn y Creigiau, pentref bach ar gyrion Caerdydd.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Naddo. Bu fy nyddiau ysgol yn hunllef imi.
A wnewch chi ddweud ychydig am eich llyfr diweddaraf? Bethan Mair o Gomer ofynnodd imi sgwennu fy hunangofiant wedi iddi wrando arna i'n cael fy holi ar y rhaglen deledu Prynhawn Da yn Llanelli. Credai y dylid dweud fy stori yn y gobaith y gallai helpu rhywun arall sy'n dioddef o alcoholiaeth. Nid oes llyfr mor gignoeth 芒 hwn am alcoholiaeth wedi'i sgwennu yn y Gymraeg o'r blaen.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Porc Peis Bach. Addasiad o sgriptiau'r gyfres gyntaf o'r rhaglenni teledu poblogaidd. Ynddo hefyd mae addasiad o'r ffilm enillodd y brif wobr yng ng诺yl ffilmiau rhyngwladol W眉rzburg yn yr Almaen. Cyhoeddwyd gan Hughes.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Llyfr mawr y Plant. Famous Seven, gan Enid Blyton. Roeddwn yn ddarllenydd comics digyfaddawd hefyd.
A fyddwch chi'n edrych arnyn nhw'n awr? Byddwn pe bai gennyf amser. Ond y gorau amdani ydi mod i'n cael sgwennu fy straeon Llyfr Mawr y Plant/comics fy hun, rwan, yn fy nghyfresi teledu!
Pwy yw eich hoff awdur? Ralph Waldo Emerson a Thoreau, William Barclay, Islwyn Ffowc Elis ac Alun Jones.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Darllenais lyfr am fywyd a gwaith Meister Eckhart - yr archesgob catholig o'r 12fed ganrif yn yr Almaen - gan W.R. Inge, dwi'n meddwl. Newidiodd fy neall i o bethau ac o Dduw.
Pwy yw eich hoff fardd? Gwenallt, Cynan - a'r llyfr rwy'n ddarllen ar hyn o bryd, 'Y nos yn dal yn fy ngwallt' gan Mari George. Mae 'Y Ffiol', llyfr barddoniaeth fy nhad, Robert Owen, yn ffefryn gen i hefyd.
Pa un yw eich hoff gerdd? Gwladys Rhys gan W.J. Gruffydd.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Englyn Dic Jones: Am dy alar galaraf - oherwydd Dy hiraeth hiraethaf; Yn fy enaid gruddfanaf Drosot ti, a chyd-drist芒f.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? If gan Lindsay Anderson a Sargeant Bilko.
Pa un yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Sali Mali ac Efnisien.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Gan y gwirion ceir y gwir.
Pa un yw eich hoff air? Cariad.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? I allu wynebu yn well fywyd fel mae'n dod.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Aflonydd. Ymroddedig. Triw.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Dim byd heddiw. Ond ar un adeg casawn bopeth amdanaf fy hun.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Dwi'n mwyhau gwleidyddiaeth yn fawr iawn. Felly, fel un o'r gwleidyddion praffaf sy'n bod; un sydd ben ac ysgwydd uwch pob un arall o'i genhedlaeth - mae'n debyg bod rhaid imi ddewis Tony Blair.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Hoffwn fod wedi bod yn bresennol yn y trawsblaniad calon cyntaf. Ar y pryd roeddwn yn llawdriniaethu ar sosejis bob nos Sadwrn yn y gegin gefn - a'm dyhead, bryd hynny, oedd bod yn llawfeddyg enwog fel Christian Barnard. Bellach, fy merch, Rwth, sy'n gwireddu fy mreuddwyd!
Pa un yw eich hoff daith a pham? Yr un rwy'n ei theithio ar hyn o bryd. Hyd eithaf fy ngallu, rwy'n byw bob munud yn union fel mae'n dod.
Beth yw eich hoff bryd bwyd? Cyri cyw i芒r Madras, hefo reis a sglodion. Dau bopadom, un nann bread - ac o, am gael y Bombay Duck yn 么l ar y fwydlen!
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Mynd I'r pictiwrs a'r theatr. Darllen. Gwneud croeseiriau, cerdded a chwarae golff - ryw 'chydig bach.
Pa un yw eich hoff liw? Coch.
Pa liw yw eich byd? Gwyn.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Deddf sy'n gorfodi ysgolion i roi gwersi i ddisgyblion ar sut i ddweud 'na', sut i ddelio gyda'u hemosiynau'n onest, a sut i gymryd cyfrifoldeb drostynt eu hunain.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Dim llyfr ar hyn o bryd. Rwy'n sgwennu drama lwyfan nesaf - O diar! Wedi ei selio ar y gyfres deledu Porc Peis Bach. Bydd yn cael ei pherfformio drwy gydol wythnos Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r cylch 2005, yn Theatr Gwynedd. Bydd hefyd berfformiadau pnawn, i blant dan gant.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|