91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Sian Northey
Awdur 'Chwaer Fawr Blodeuwedd'
Enw:
Sian Northey.

  • Beth yw eich gwaith?

  • Gweithio ar fy liwt fy hun - unrhywbeth difyr sy'n fy ngalluogi i dalu'r rhent, ond gora po fwyaf ohono sy'n sgwennu o rhyw fath.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Wedi bod yn gweithio yn Nh欧 Newydd, Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, tan yn ddiweddar. Wedi gweithio i Barc Cenedlaethol Eryri ac i'r Academi, cadw siop fwyd iach, gweithio tu 么l i'r bar, arwain cylch meithrin, a lot o betha eraill.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Trawsfynydd.

  • Lle鹿r ydych chi'n byw yn awr?

  • Pentrefelin, ger Cricieth.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Do, er dwi ddim yn meddwl mod i'n ymwybodol o'r peth ar y pryd.

  • . Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?

  • Y syniad wedi bod yn fy mhen ers talwm, ond proc deadline wnaeth i mi sgwennu yn y diwedd.

  • Wnewch chi ddweud ychydig amdano?

  • Rhyfeddu oeddwn i y gallai Gwydion fod wedi creu Blodeuwedd ar y cynnig cyntaf, dychmygu y gallai fod yna chwaer h欧n nad oedd cweit mor dlws, cweit mor berffaith, a'i bod hi yno yn rhywle trwy gydol y stori. Ac efallai fod ei hysbryd hi yn dal yng Nghwm Cynfal. Mae Mali Jones hefyd yn chwaer fawr, chwaer fawr i Gwyneth Haf sydd yn gallu gwneud pob dim, byth yn cael plorod ac yn denu pob bachgen. Pan mae Mali a Gwyneth yn mynd i Gwm Cynfal i aros at eu nain dros yr haf mae yna bethau od yn digwydd...

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Ar y Daith - casgliad o stori芒u byrion i oedolion a Pwysig, nofel i'r arddegau iau. Ac wedi golygu cyfrolau o farddoniaeth a ll锚n meicro.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Anodd dewis un. Fel r诺an, roeddwn i'n darllen pob math o bethau ond un sy'n aros yn y cof yw The Day the Guinea Pig Talked gan Paul Gallico.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Byddaf, ac yn mwydro penna pobl amdano ar adega!

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Gan fy mod wedi cyfarfod 芒 chymaint o sgwenwyr trwy fy ngwaith yn Nh欧 Newydd, a chymaint ohonynt yn bobl dda a difyr, rhai bellach yn gyfeillion, dwi wastad yn meddwl am rigwm Wendy Cope pan mae rhywun yn gofyn hyn:
    When they ask who's my favorite poet
    I'd better not mention you,
    But you are my favorite poet,
    And your poetry's not bad too.

    Ond yr un sydd ac oedd yn hoff ym mhob ystyr yw Wil Sam, ac mae gen i, fel llawer, hiraeth mawr.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Llyfrau Oriana Fallaci pan oeddwn yn fy arddegau (eu darllen yn y Saesneg yn anffodus) - A Man, Nothing and Amen,The Useless Sex a Letter to a Child Never Born.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • Yr holl feirdd anhysbys sgwennodd yr Hen Benillion.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Pais Dinogad.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • Heddiw (ac mae hyn fel llawer o'r atebion yma yn newid o ddydd i ddydd) - Had we but world enough, and time o gerdd Andrew Marvell To his coy mistress. Ac os dwi'n cael twyllo a chynnwys un arall But still like dust I rise - Maya Angelou.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • M.A.S.H.
    C'mon Midffild.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Dwi'n hoff iawn o Dili Minllyn - ei diniweidrwydd a'i ffaeleddau hi.
    Fy nghas gymeriad yw Efnisien - mae'n gas gen i greulondeb at anifail, a dwi ddim dallt y dyn.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Gwyn y gwel y fran ei chyw.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Ffridd

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Y gallu i hedfan, neu os oes rhaid bod yn ymarferol, y gallu i ganu mewn tiwn.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?


  • Onast,
    Annibynol,
    Ffaeledig.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Llawer iawn - ar y funud dwi'n poeni am y ffaith i mi golli fy nhymer efo rhywun sydd yn annwyl i mi, ac am effaith disgyrchiant a henaint ar rai darnau penodol o'm corff.

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Pob rhiant mewn gwlad lle mae rhyfel.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Pan oedd yr artistiaid cyntaf yn gwneud lluniau ar waliau ogofau.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Gwenllian - pan fyddai hi ddigon ifanc i chwarae ond yn ddigon hen i gofio'r hyn y byddwn yn esbonio iddi.

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Cerdded o Lyn Trawsfynydd drosodd i Nant Pasgan uwchben Llandecwyn, oherwydd i mi fod yn crwydro yno ar fy mhen fy hun pan yn blentyn a theimlo mai fi oedd yn darganfod y lle.

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Yn eistedd allan yn yr haul, efo ffrind neu ffrindiau, ac ychydig o win, a dim brys i fynd i unrhyw le.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Mae gen i ddyfyniad gan Desmond Morris wrth ochr fy nesg sydd o'i gyfieithu yn dweud;
    Gwaith yw pan fo chwarae yn methu. Os nad ydi'r hyn rydych yn ei wneud yn teimlo fel chwarae, da chi yn y swydd anghywir. Newidiwch hi.
    Dwi'n ffodus -mae'r ffin rhwng gwaith a hamdden fel pe bae yn mynd yn deneuach a theneuach i mi.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Gwyrdd, gwyrdd tyfiant.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Melyn

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Fe fyddai gen i lawer mwy o ddiddordeb mewn diddymu deddfau dianghenraid - gas gen i fiwrocratiaeth ac mae gen i ffydd, ddiniwed efallai, mewn daioni pobl.

  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Oes, ers hydoedd - cyfrol o straeon byrion i oedolion. Ac fe hoffwn i gyhoeddi cyfrol o gerddi, ond falla mai breuddwyd fydd hynny... Ac mae 'na egin syniad am nofel arddegau arall, rhywbeth i wneud efo ceffylau...

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Fe fydd hon, ymhen amser, yn stori wir.

  • Cyhoeddwyd Chwaer Fawr Blodeuwedd gan Wasg Gwynedd. 拢5.95.


  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy