91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Kate Roberts y Modernydd
Glyn Jones yn trafod 'Cyfnod Dinbych' Kate Roberts
Mae dwy ran i yrfa lenyddol Kate Roberts - cyfnod Arfon a chyfnod Dinbych.

Trafodwyd y cyfnod cyntaf hyd syrffed ond prin fu'r sylw i'r ail er bod y Kate Roberts a ddaeth allan o'i meudwyaeth llenyddol yn 1949 yn Kate Roberts dra wahanol i'r un ddeuddeng mlynedd ynghynt.

Cyfnod o arbrofi
Yr oedd bellach yn fodernydd, term a grisielir orau yng ngeiriau Ezra Pound, "Make it New." a yna a wn芒i hi o hyn allan gan arbrofi gyda ffurf a chynnwys ei rhyddiaith.

Arbrofodd gyda ffurf ei rhyddiaith.
"Stori hir fer ar ffurf dyddiadur," yw isdeitl Stryd y Glep- peth cwbl newydd yng Nghymru ar y pryd.

Mae Y Byw sy'n Cysgu yn arbrofi trwy gyfuno naratif draddodiadol trydydd person gyda chofnodion dyddiadur yn y person cyntaf.

Llif ymwybod
Arbrofodd hefyd gyda thechneg llif yr ymwybod a ddefnyddiwyd gan y modernydd James Joyce yn Ulysees.

Mae straeon fel Yr Enaid Clwyfus yn ddarnau nodweddiadol o'r dull hwn o sgrifennu yn gwibio rhwng y presennol a'r gorffennol i adlewyrchu tryblith meddwl y prif gymeriad.

Defnyddir y dull yn fwy arbrofol fyth mewn stor茂au fel Yr Atgyfodiad lle mae'r arddull ffurfiol, farddonol yn gwyro at ffurf yr ysgrif tra bo'r modd y rhennir y gwaith fesul diwrnod yn nes at ffurf y dyddiadur eto.

Eto, llif yr ymwybod sydd yma:
"Y Diwrnod ar 么l hynny
. . . Fy ngh么t llofft yn crogi ar fach tu cefn i'r drws, ei breichiau a'i hysgwyddau yn disgyn yn llipa. Fy ffurf i fy hun ynddi. Fy menyg ar y bwrdd ymwisgo a ffurf fy nwylo yn sefyll yn syth yn eu bysedd gwag. Petawn i wedi marw, a welai rhywun fy nghorff yn y g么t a'm dwylo yn y menyg fel y gwelais i?"

Y canoloesol
Nodwedd fodernaidd arall yw'r dull meta ffuglenol sydd i lawer o'i straeon.
Mae'n hoff o droi at lenyddiaeth ganoloesol gyda Bet Jones yn Tywyll heno yn cymharu ei hun 芒 Heledd (Ystafell Cynddylan) - y ddwy yn gwallgofi; Heledd yn crwydro adfeilion llys Cynddylan, a gynrychiola ddadfeiliad ffydd Bet a'r anialwch o wacter y mae ar goll ynddo.

Defnyddia'r un dechneg yn ei straeon byrion gyda Yr Wylan Deg yn enghraifft wych o hynny a'r prif gymeriad, Lisi Ifans, yn dyfynnu cwpled o gywydd Sion Phylip:
Yr wylan deg ar lanw d诺r|
Loywblu gofl, abl o gyflwr.

Fodd bynnag, mae'r prydferthwch a welodd y bardd yn yr wylan yn troi'n obsesiwn cenfigenllyd ar ran Lisi Ifans wrth i Kate Roberts ddefnyddio canoloesoldeb i drafod problemau'r byd modern.

Disgrifiadau swreal
Nodwedd arall a gysylltir 芒'r mudiad modernaidd yw disgrifiadau swreal ac mae ei gwaith yn frith o hynny.

Dyna Elen, prif gymeriad Cathod Mewn Ocsiwn sy'n gweld wyneb y diweddar Mrs. Hughes yn ffurfio ac ailffurfio mewn mat:

"Ar y llawr wrth ei hymyl yr oedd hen garped llipa wedi ei blygu'n fl锚r. Edrychodd ar ei blygion, ac o dipyn i beth fe droes y plygion yn ffurfiau wyneb, yn drwyn, ceg, talcen a chlustiau. Troesant yn wyneb corff marw mewn bedd . . . Y munud nesaf daeth dyn i mewn i'r ystafell yn gwisgo esgidiau trymion. Sathrodd y carped a diflannodd y ffurfiau. Yr oedd wedi sathru wyneb y marw yn ei harch."

Disgrifiad nid anhebyg i rai Franz Kafka, un o'r modernwyr enwocaf:

Brwydr teimladau
Ymdrinia Kate Roberts 芒 syniadau modernaidd yn ogystal. Nid cofnodi brwydr dyn yn erbyn tlodi a wna yn ei hail gyfnod ond archwilio'r frwydr rhwng ei deimladau fel ag yn Tegwch y Bore.

Yma, archwilir y modd y rhwygir Ann Owen rhwng ei chariad at ei brawd ymadawedig a'i chariad at Richard gan ddioddef rhyw fath o gymhlethdod Oedipeaidd fel yr adroddwr yn Un Nos Ola Leuad.

Athroniaeth seicolegol Sigmund Freud yw hyn wrth gwrs, athroniaeth sy'n ganolog i lenyddiaeth fodernaidd.

Nodwedd arall fodernaidd yn ei gwaith yw'r modd y cwestiynir sicriaethau'r genhedlaeth gynt. Trafodir dadfeiliad crefydd yn Tywyll Heno a dirywiad yr uned deuluol yn Y Byw Sy'n Cysgu.

Ceir elfennau distopaidd yn ei rhyddiaith. Dyna prif gymeriad Prynu Dol sy'n siarad 芒 chi i gael clywed hen eiriau anghofiedig y Gymraeg. Portread nad yw'n annhebyg i un Islwyn Ffowc Elis o Hen Wraig y Bala.

Yr artist dioddefus
Archwilia hefyd thema yr artist dioddefus - thema fodernaidd arall.

Try Ffebi Beca a Lora Ffennig at ddyddiadura am waredigaeth tra bo Bet ei bryd ar gyfansoddi drama.

Dyna Jones wedyn, prif gymeriad Yr Enaid Clwyfus:

"Roedd arna'i eisio gwneud llun o'r byd gwallgo yna, a fi fy hun fel rhyw sbotyn bach yn i ganol o. Dyma fi'n tynnu llun dyn yn ffustio perthi efo ffon, a'r perthi ar d芒n, a'r t芒n yn mynd yn fwy wrth iddo ffustio . . . Wedyn, dyma fi'n tynnu llun babi yng nghroth i fam, hanner y ffordd cyn cael i eni . . ."

Ffy'r cymeriadau hyn i fyd celfyddyd, nid annhebyg i Stephen Dedalus, prif gymeriad A Portrait of the Artist as a Young Man (James Joyce.)

Y mae llawer heb ei ddweud ond mae un peth yn gwbl amlwg. Modernydd yw Kate Roberts yng ngyfnod Dinbych ac, yn fwy na hynny, modernydd sy'n cystadlu'n hawdd 芒 modernwyr mawr y byd.

  • Mae'r adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro sy'n parhau tan Ionawr 2008 rhwng 91热爆 Cymru ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill 拢30 am ysgrifennu - Cliciwch

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Hanes Kate Roberts

  • Canolfan Cae'r Gors

  • Kate Roberts y ffeminist

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy