Straeon yn ddihangfa a geiriau'n wyrth
Disgrifiwyd ysgrifennu fel "cilfach i ddianc iddi" gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru.
Ac mae Harri Parri hefyd o'r farn bod geiriau a'r ddawn i'w rhoi wrth ei gilydd yn bethau i ddiolch amdanynt.
Yr oedd y gweinidog ac awdur y cyfrolau niferus o straeon digri a'u cymeriadau lliwgar yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y thema "Diolchgarwch" ar y rhaglen radio Bwrw Golwg fore Sul, 20 Hydref 2007.
"I mi mae geiria yn rhoddion," meddai wrth gael ei holi gan John Roberts, cyflwynydd y rhaglen.
"Mae gan awdur Saesneg ysgrif, The Divine Alphabet, ac rydw i'n hoff iawn o'r teitl yna; fod Yr Wyddor yn rhywbeth dwyfol, yn rhodd oddi uchod ichi greu efo hi ac mae rhoi geiriau wrth ei gilydd yn medru bod yn wyrth dwi'n meddwl," ychwanegodd.
"A beth sy'n rhyfedd ydi; chewch chi byth well dramodydd na Shakespeare ond mae'r posibilrwydd yna, chewch chi ddim gwell nofelydd na Daniel Owen ond mae'r posibiliadau yna tra bo'r Wyddor o fewn eich cyrraedd chi. A dwi'n diolch am hynny," meddai.
Medru dianc
Wrth s么n am sgrifennu fel dihangfa rhag y byd go iawn dywedodd:
"Pan oedd y gyrru'n galed yr oedd sgrifennu i mi yn ddihangfa. Roeddech chi'n creu byd yr oeddech chi'n medru dianc iddo fo.
"Byd afreal oedd o - nid oes yno neb yn wylo nid oes yno neb yn brudd - ond i mi roedd o'n ddihangfa o bethau trist oedd yn digwydd o ddydd i ddydd, gwaeledd pobl a dioddefaint pobl.
"Yr oeddech chi'n mynd i rhyw fyd am ychydig o amser oeddech chi'n i greu i chi'ch hun ac yr oedd o'n fyd diddan yn amlach na pheidio," meddai.
Dywedodd fod y sgrifennu yn gyfle hefyd i ddweud rhai pethau "na fyddech chi'n i dweud nhw yn gyhoeddus".
"Eu deud nhw ar ffurf stori ac mae hynny'n wahanol [achos] mae pobl yn meddwl wedyn, 'Wel nid y fi ydi hwn ond rhywun arall'."
Ychwanegodd mai "pobl" yw ei ddiddordeb mawr yn ei sgrifennu.
"Bydded nhw'n bobl wirioneddol wedi bod yn byw ar ein daear ni ac yn rhan o hanes neu'n bobol ddychmygol."
Y llyfr nesaf
Bydd ei lyfr nesaf yn gyfrol go wahanol i'r straeon digrif a doniol am gymeriadau lliwgar Porth yr Aur a helyntion Hufen a Moch Bach.
Er mai cyfrol hunangofiannol fydd hi dywed na fydd yn hunangofiant.
"Rydw i wedi cael cynnig digon teg i sgwennu rhyw fath o hunangofiant ond dydw i erioed wedi bod ag awydd gwneud hynny oherwydd, yn gyntaf: mae yna gymaint o gamgymeriadau - a dydw i ddim yn dweud hyn yn ysgafn ond mae yna gymaint o gamgymeriadau wnes i mewn bywyd o dro i dro, pethau chwithig nad ydw i'n falch ohonyn nhw.
"Ac i sgwennu eich hunangofiant mi fyddai'n rhaid ichi ddweud y gwir i gyd . . .
"Ac mae'n ffasiwn [heddiw] i ladd ar bobl mewn print, wel dydw i ddim awydd gwneud hynny ychwaith," meddai.
"Ond mae yna bobl sydd wedi dylanwadu ar fy mywyd i a dwi wedi bod awydd ers blynyddoedd gwneud portread o'r bobl hynny a dyna fydd hwn pan ddaw o," eglurodd.
Dathlu ddoe
Unwaith yn rhagor, bydd hwn eto yn gyfle i ddianc rhag realaeth ond ar ben hynny "yn gyfle i ddathlu ddoe achos mae pethau glywais i ddoe, ddywedwyd ddoe, wedi bod yn ganllawiau ac yn rhan o mywyd," meddai..
Cytunodd mai 'dathliad' o fath yw ei holl sgrifennu:
"Dathliad o'r wefr o fyw, y fraint o fyw a bywyd yn gyffredinol.
"Yn ddiweddar mi f没m i yn y seidin am bron i hanner blwyddyn a sylweddoli bod pethau pwysicaf bywyd yn bethau syml iawn [ac mae ] rhywun yn pryderu ac yn poeni am bethau nad ydyn nhw yn wirioneddol bwysig yn y diwedd ac yn yr ystyr yna mae dathlu iechyd yn rhywbeth mawr yn tydi ac mae G诺yl Ddiolchgarwch yn gyfle i ddathlu y Cr毛wr a'r greadigaeth a dwi'n meddwl fod sgrifennu a chreu efo geiriau yn fath o ddathlu."
Poeni a phryderu
Cyfaddefodd ei fod fel person yn "boenwr a phryderwr" sydd angen dihangfa ar adegau.
"Mae'r rhan fwyaf yn meddwl os ydych chi'n sgrifennu'n ddigri neu eich bod yn gomed茂wr eich bod chi'n chwerthin am ben pob dim.
"Ond y tu mewn, yn aml iawn, crio ydych chi," meddai.
"Mae'r dwyster a'r digrifwch mor agos at ei gilydd a dydych chi byth yn si诺r iawn p'run di p'run a phwy di pwy ."
Dywedodd y byddai bywyd wedi bod "yn fwy o faich" iddo heb y sgrifennu:
"Mi wnes i fwynhau fy ngwaith a mwynhau'r cyfnod ac yn y blaen ac roedd sgrifennu weithiau yn gilfach i ddianc iddi ar dro.
"Mae gweld geiriau yn sownd yn ei gilydd ac yn gyferbyn a'i gilydd ac yn gwrthgyferbynnu a'i gilydd yn rhan o'r wyrth ac mae'n wyrth fawr ac mae eisiau diolch amdani," meddai.