| |
|
|
|
|
|
|
|
Llyfr Pen-blwydd Astrolegydd ac awdur
Enw:
Eiry Palfrey
Beth yw eich gwaith?
Astrolegydd, Cynhyrchydd, Awdur.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Dysgu, actio, cyflwyno.
O ble'r ydych chi'n dod? Fe'm ganed yn Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth. Cefias fy magu a'm haddysgu yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn.
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Caerdydd.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do ar y cyfan.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Yn ogystal 芒 bod yn llyfr defnyddiol i nodi dyddiadau pen-blwydd pwysig a darganfod pa enwogion sy'n rhannu'r un pen-blwydd 芒 chi, mae'r Llyfr Pen-blwydd hefyd yn edrych ar nodweddion pob arwydd yn y Sidydd.
Bu gen i ddiddordeb mewn astroleg ers blynyddoedd. Bu'r llyfr ar y gweill am gyfnod hir cyn gweld golau ddydd a minnau'n ychwanegu ato yn raddol dros y blynyddoedd.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Amryw o lyfrau i blant a dysgwyr.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Luned Bengoch - gan Elizabeth Watcyn Jones. Llyfr Mawr y Plant.
A fyddwch yn edrych arnynt yn awr? Na fyddaf.
Pwy yw eich hoff awdur?
Marged Jones (fy mam).
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? O Ran Mererid Hopwood.
Pwy yw eich hoff fardd?
R Williams Parry.
Pa un yw eich hoff gerdd? Cofio - Waldo Williams
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Un funud fach cyn 'relo'r haul i'w orwel.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Con Passionate
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff: Beatrice (Much Ado About Nothing - Shakespeare)
Cas: Cathy (Wuthering Heights)
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Hir pob ymaros.
Pa un yw eich hoff air? Serendipity.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ganu.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Bach, Bywiog, Diamynedd.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Siarad cyn meddwl gyntaf.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Arglwyddes Llanofer - am fynnu rhoi sylw i'r Gymraeg a Chymreictod.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Yr ymfudo i Batagonia.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Michael D Jones - pam mynd mor bell?
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith adre - o unrhyw le.
.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Stecen (fillet) a saws pupur.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Dawnsio gwerin.
Pa un yw eich hoff liw?
Coch.
Pa liw yw eich byd?
Pob lliw.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes - cyflwyno'r Mabinogi a chwedlau Cymru yn Wenglish.
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Un tro flynyddoedd maith yn 么l.
Cysylltiadau Perthnasol
Llyfr Pen-blwydd
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|