| |
|
|
|
|
|
|
|
Arwel Vittle Awdur cofiant Lewis Valentine
• Enw?
Arwel Vittle.
• Beth yw eich gwaith?
Cyfieithydd.
• O ble'r ydych chi'n dod?
Rhywle rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd.
• Lle'r ydych chi¹n byw yn awr?
Llanwnda, Arfon.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Ddim felly.
• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Cofiant i Lewis Valentine. Mae'n adrodd hanes bywyd Lewis Valentine o Landdulas i ffosydd y Rhyfel Mawr. O ddyddiau cynnar Plaid Cymru i garchar Wormwood Scrubs ac am ei ran yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth.
Ei gyfnod yn weinidog yn Llandudno ac yn Rhosllannerchrugog.
A throeon yr yrfa - a'i harweiniodd i weithredu fel y gwnaeth.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Tair nofel amrywiol eu cynnwys a'u safon!
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Dial o'r Diwedd - T. Llew Jones.
• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na.
• Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg, Saunders Lewis. George Orwell yn Saesneg.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Gweledigaethau y Bardd Cwsg gan Ellis Wynne. Cofiant T Gwynn Jones i Emrys ap Iwan.
• Pwy yw eich hoff fardd?
Naill ai Waldo neu TH Parry-Williams.
• Pa un yw eich hoff gerdd? Cwmwl Haf (Waldo) neu Dychwelyd (THPW)
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? The Seventh Seal a Father Ted.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad - Kilgore Trout yr awdur ffug yn nofelau Kurt Vonnegut.
Cas gymeriad - oherwydd yr hyn mae'n gynrychioli - O'Brien yn 1984.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
T H Parry-Williams am y Gymraeg:
Cei ganmol hon fel canmol jwg ar seld
Ond gwna hi'n hanfod - ac fe gei di weld.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Amynedd.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Diamynedd, diamynedd, diamynedd.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Diffyg amynedd.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Llawer mae'n siŵr ond yng nghyd-destun y cofiant, rwy'n edmygu'r criw bychan a sefydlodd y Blaid Genedlaethol yng Nghymru ynghanol y ganrif ddiwethaf.
• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y trên nos i Rufain o Baris gan fod coffi amser brecwast - a phopeth arall - yn blasu cymaint gwell yno.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, cwyno.
• Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.
• Pa liw yw eich byd?
Llwyd (am fy mod yn byw yng Nghymru) ond mae yno batshys gwyrdd hwnt ac yma (eto am fy mod yn byw yng Nghymru).
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i wahardd Cymry Cymraeg rhag siarad Saesneg mewn cyfarfodydd lle mae 'na gyfieithydd yn bresennol.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Nac oes, ddim hyd y gwn i.
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Gwenodd y llawfeddyg Gwydion Rhys yn fodlon. Bu'r driniaeth i drawsblannu dur yn asgwrn cefn arweinwyr y genedl yn llwyddiant hyd yma, ond gwyddai y byddai'r wythnosau nesaf yn dyngedfennol...
Valentine gan Arwel Vittle. Y Lolfa, £14.95.
|
|
| | | | | | | | | | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91Èȱ¬ Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|