| |
|
|
|
|
|
|
|
Gwyn Thomas - cerdd i Robat Gruffudd Cerdd Gwyn Thomas wrth anrhydeddu Robat Gruffudd am ei gyfraniad i fyd cyhoeddi Cymraeg
ROBAT GRUFFUDD
Y mae yna'n sicir fyrdd
A fu, 'n eu tro,
Am geisio peintio'r byd yn wyrdd -
Ac a roes y gorau iddi
Gan barchuso, gan-heneiddio
A syrthio i rigolau cyfforddusrwydd.
Ond nid efo, nid Robat Gruffudd.
Gyda diniweidrwydd dur y rheini
Y mae ganddynt weledigaeth - a direidi -
Fe ddaliodd Robat Gruffudd wrthi
I herio unrhyw gallio dof,
I herio unrhyw gyffordduso,
I herio pob heneiddio.
Ac o'i Lolfa creodd o
Eiriau a roddai inni oll ddiddanwch,
A roddai weithiau ryw arweiniad,
Neu a wnai i ni bendroni
Ar droeon bywyd, neu eiriau 'fyddai
Ambell waith am ein haddysgu.
Ac, o bryd i'w gilydd, gyrrai eiriau
A ecsosetiai trwy siwtiau du'n parchusrwydd.
Freuddwydiwr hoff, yr ydym ni
Yn diolch iti am fynd ati
I geisio llunio inni Gymru
A fyddai'n wlad gwerth trigo ynddi. Mewn dyfal ac amryfal ffyrdd,
Fe beintiaist ti ein byd ni'n wyrdd. Gwyn Thomas
Cliciwch i ddychwelyd i'r stori
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|