91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dewi Prysor ar raglen Gaynor
'Sgwennu' ers yn blentyn
Er nad oedd yn un i ganolbwyntio ar ei waith yn yr ysgol- yr oedd y nofelydd Dewi Prysor hyd yn oed yr adeg honno yn dangos arwyddion o fod yn sgrifennwr.

"Doeddwn i ddim yn un am ganolbwyntio yn ystod yr ysgol - doeddwn i ddim yn un a llawer o ddiddordeb mewn gwaith. Ond wedi dweud hynny, o sb茂o'n 么l roeddwn i'n un oedd yn giarant卯d o sgwennu straeon achos roeddwn i wrth fy modd yn sgwennu straeon - yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mi fyddai'r athrawon yn cadarnhau hynny dwi'n si诺r," meddai wrth gael ei holi gan Gaynor Davies ar ei rhaglen ar 91热爆 Radio Cymru, fore Mercher, Chwefror 28, 2007.

"Roeddwn i wrth fy modd yn sgwennu - roedd yr athrawon o hyd yn dweud; 'Rhaid iti wneud rhywbeth am hyn".

Yng ngharchar
Ond datgelodd Dewi Prysor mai dim ond yn ystod y cyfnod ar y cafodd ei gadw dan glo yn disgwyl canlyniad achos llys yn ei erbyn y gwnaeth o ail afael yn ei sgrifennu ac un o ganlyniadau hynny oedd y ddrama WD2416 a lwyfanwyd gan Llwyfan Gogledd Cymru dro'n 么l.

"Yn ystod 1992 mi wnes i wneud pedwar mis ar ddeg o garchar ar remand [cyn ei gael yn ddieuog] a dwi'n s么n am y profiad personol o beth ddigwyddodd yng ngharchar," meddai am y ddrama.

Brwydr o'i flaen
Dywedodd nad oedd y syniad o dreulio 14 mis yng ngharchar i ddim yn rhywbeth oedd yn ei lethu yn ystod carchariad gan fod pethau eraill i fynd 芒'i feddwl.

"Dydach chi ddim yn meddwl amdano fo pan ydych chi yn ei ganol o - mae gynnoch chi frwydr o'ch blaen ac hefyd mi rydach chi'n troi y profiad yn rhywbeth adeiladol ac yn rhywbeth positif a dyna beth mae'r ddrama amdan - y profiad hwnnw o droi rhywbeth reit negyddol yn rhywbeth adeiladol hefyd.

"A dweud y gwir, dwi heb droi'n 么l ers hynny achos pan oeddwn i yn y carchar y gwnes i ddechrau ar fy sgwennu," meddai.

Nid yn unig yr oedd yn lle da i gael cymeriadau gwahanol "ond roedd o'n lle da i gael amser hefyd!" meddai wrth Gaynor Davies.

Dywedodd ei fod yn "hapus ofnadwy" gyda'r llwyfaniad - yn enwedig perfformiad Dyfrig Evans a chyfarwyddo Ian Rowlands.

"Oherwydd ei fod wedi cael ei lwyfannu roedd o'n rhywbeth y tu allan i ti dy hun. Er mai [fi]oedd y person i fod roedd y ffordd roedd wedi cael ei gyflwyno ar ffurf ffuglen - ond bod y pethau i gyd yn wir hefyd.

"Oherwydd hynny roedd o [fel pe byddai] y tu allan i mi ac mewn ffordd roeddwn i'n gwatsiad rhywbeth roedd rhywun arall wedi'i wneud."

'Profiad bywyd'
Disgrifiodd ei nofel gyntaf Brithyll a gyhoeddwyd yn ddiweddar fel "profiad bywyd" a dylanwad y cymunedau y bu'n byw ynddynt.

"Dwi'n lecio pobl a'r hiwmor yn sgwrs bob dydd pobl a'r hyn sy'n digwydd bob dydd pan nad ydyn nhw'n trio bod yn ddigri - dwi'n eu gweld nhw'n ddigri uffernol.

"Felly, dwi jyst wedi bod fatha sbwng ac yn cadw hyn i gyd i mewn ac eisiau creu rhywbeth allan ohono fo a dyna'n syml iawn, iawn, ydi Brithyll," meddai.

"Nid bod y straeon yn wir , mae'r rheini yn dod o'r dychymyg ond mae yna ronynnau o wirioned," ychwanegodd.

O flaen cyfrifiadur
Dywedodd mai dim ond "weithiau" y mae o'n sgrifennwr disgybledig sy'n mynd at ei gyfrifiadur yn ddeddfol bob bore.

"Dydi hi [yr awen] ddim yna bob dydd nac ydi? Mae'n ddigon hawdd dweud; O mi gai bymtheg awr ar y compiwtar fory ac Mi fyddai wedi gwneud be ydw i eisiau'i wneud fory yn braf. . . - ond pan wyt ti'n mynd yna y bore wedyn dydi o ddim yna [a does dim byd yn dod]."

Dywedodd ei fod wedi dechrau ar "rhyw fath o ddilyniant" i Brithyll.

Mae hefyd yn gweithio ar albwm rege efo Vates ac mae'n fwriad cynnal ychydig o gigs pan fydd yr albwm hwnnw allan.

Ef hefyd ydi cadeirydd G诺yl Car Gwyllt Blaenau Ffestiniog.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Dewi Prysor DW2416

  • Brithyll - adolygiad

  • Dewi Prysor - atebion holiadur


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy