|
Monica Dafad ddu llenyddiaeth
Sylwadau gan Glyn Jones ar Monica, Saunders Lewis.
Un o ddefaid duon ein llenyddiaeth yw Monica, nofel gyntaf Saunders Lewis, a hynny am ei bod yn trafod thema wrthodedig.
Yng ngeiriau'r awdur: ". . . pechod yw priodoledd arbennig dyn, y peth mwyaf dynol mewn bod, ac felly'n anhepgor i farddoniaeth a ll锚n."
Nid thema newydd i'n ll锚n mo hon. Cawn ddarlun byw iawn o bechod Theomemphus yng ngherdd epig Williams Pantycelyn, a dyna pam y cyflwynodd Saunders Lewis ei nofel i goffadwriaeth y g诺r hwnnw.
Ond yn wahanol i Theomemphus, nid yw Monica yn edifarhau nac yn troi at y Groes, a chredaf mai dyna pam y gwrthodwyd y nofel pan y'i cyhoeddwyd.
O bechod i bechod Hercian o bechod i bechod yw hanes Monica Maciwan, heb wybod paham, a heb fedru gwneud dim am y peth.
Mewn ymgais i ddod a fflach o liw i'w bywyd undonog dechreua gerdded strydoedd Caerdydd yn chwilio am fechgyn; yna daw ei chwaer 芒 bachgen adref, a theimla Monica'r nwydau'n fflamio oddi mewn iddi.
Rhydd ei bryd ar ddwyn cariad ei chwaer, a dyna a wnaiff gan fyw mewn blys o gnawdolrwydd gydag ef nes beichiogi.
Dyma'r trobwynt. Fel yr eglura i'w g诺r:
"Tegan oeddit ti i mi. Cherais i mohonot ti'n onest erioed."
Troi'n salwch Ac o ganlyniad dechreua gas谩u ei chorff afluniaidd, y babi a'i hanffurfia, a'r g诺r a'i beichiogodd.
Try ei hunigrwydd yn salwch meddwl gwyrdro毛dig. Dechreua esgeuluso ei hun, i gosbi'i g诺r a'r baban yn ei chroth. Erys yn ei gwely am fisoedd ar y tro. Mae'r darlun yn ddigon i godi cyfog.
"Cronasai briwsion a darnau bwyd yn dew dan ei chluniau a'i thraed . . . Yr oedd olion cyfog ar y blancedi ac ar yr huling wrth droed y gwely. Yr oedd ei choesau hi yn dywyll ac wedi chwyddo, a lleiniau chwyslyd dan ei g锚n ac ar ei gwddf a'i dwyfron. Gorweddai Monica yn drom a disymud yng nghanol y drewdod."
Fodd bynnag, nid yw ei chynllun yn gweithio. Yn ei rwystredigaeth aiff Bob ei gwrdd 芒 phutain a deil afiechyd rhywiol.
Dychmygwch gyhoeddi nofel fel hon yn y Tridegau!
Darlunio cymdeithas Mae'r nofel yn dechrau yn syth drwy ddarlunio cymdeithas:
'"Clyw'r wraig yna eto."
"Honno sy'n chwerthin?"
"O hyd ac o hyd. Mae'n crafu ar fy nerfau i. Bob hwyr bydd hi a'i g诺r yn sgwrsio gyda Mrs North, ac waeth beth a ddywedo'r g诺r, bydd hi'n ei glywed yn ddigri. . . Dos at y ffenest yn awr."
Cymdeithas fusneslyd, feirniadol sydd yma. Cymdeithas nad yw'n gymdeithas.
Pan ddaw Monica i'r llun yn llawn, ychydig baragraffau wedyn, gwelwn yr effaith a gaiff cymdeithas fel hon ar unigolyn:
"Mae'n gas gen i'r babi yn awr cyn ei weld. Fyddaf i ddim byw, wyddoch chi."
Chwarddodd Mrs Maciwan yn ddilywodraeth."
Dyma enghraifft benigamp o ddawn ddramodyddol Saunders Lewis. Gall ennyn ein chwilfrydedd gyda chymeriad a sefyllfa sinistr fel hon.
Gwraig nad yw'n ddeugain eto yn s么n am ei marwolaeth ac yn chwerthin. Rhaid darllen ymlaen.
Crefft symbolaeth Mae defnydd crefftus o symbolaeth yma hefyd. Mae tai p芒r y maestrefi yn cynrychioli'r p芒r priodasol; yn gaeth i'w gilydd ond yn ynysig o bopeth arall.
"Rhesi . . . o uffernau twt, pob un a'i gardd flodau o'i blaen."
Mae cathod Monica yn cynrychioli ei hafiechyd. Sala'n byd aiff hi agosa'n byd y deuant nes eu bod erbyn diwedd y nofel yn cysgu gyda hi.
Cymhara Monica grud ei phlentyn ag arch ac mae'n darganfod gwenwyn yn un o ddroriau ei g诺r, a hithau'n meddwl am farwolaeth.
Gwendidau Ond nid yw'r nofel heb ei gwendidau, a hynny'n bennaf am mai dramodydd yw Saunders Lewis nid nofelydd.
Mae gorysgrifennu a pharagraffau o ddisgrifio.
A dyna ichi Alis a Lili. Esgus o gymeriadau ydynt. Yno ond i Monica gael dod atynt i adrodd ei hanes trasig.
Credaf hefyd fod y traethydd hollbresennol yn traethu'n rhy holl bresennol weithiau:
"Nid y claf yw unig anrhaith afiechyd. Rheibia weithiau gryfder yr ifanc, gan ei gipio ymaith oddi wrth hoywder bywyd a'i glymu wrth erchwyn gwely i weini mewn drycsawr a myllni ar ysglyfaeth angau."
Pam na edy'r awdur i Monica adrodd ei stori yma? Profiad ail law a gawn.
Nid yw'r diweddglo yn gwbl addawol ychwaith wrth i Monica fynd o amgylch y tai doctor i ffeindio doctor ei g诺r.
Y mae un o'r doctoriaid hyn yn ffonio ei gyfaill, lle mae Bob yn gorwedd.
A Monica wedyn yn llithro i'r llawr tu allan i'r union d欧 hwnnw, ychydig funudau cyn i'w g诺r adael. Gormod o gyd-ddigwyddiad.
Yn ddim ond cant ac ugain o dudalennau, nofel fer yw Monica ac er yn nofel ych a fi, mae'n nofel graff gan awdur deallus.
Astudia thema sy'n gwbl berthnasol i'n byd ni heddiw - gwacter ysbryd a'i hachosion, y modd mae'r rhain yn arwain at bechod, a hwnnw yn ei dro, at ddinistr.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|