|
Graffiti Graffiti ar y we i ddisgyblion ysgol
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Graffiti gan Angharad Devonald (Dref Wen).
Nid tasg rwydd yw ysgrifennu i bobl ifanc yn eu harddegau. Yn fwy nag unrhyw ystod oedran arall, mae'n rhychwantu gallu ac aeddfedrwydd - gyda'r rheiny'n amrywio'n aruthrol o un i'r llall.
Fodd bynnag, mae Angharad Devonald, sy'n un o don newydd o leisiau yng Nghymru, wedi llwyddo i greu gwaith sy'n afaelgar, yn feiddgar ac yn gyfoes.
Mae Graffiti - sy'n anelu at ddarllenwyr rhwng 12 a 16 yn fy nhyb i - yn nofel sy'n dilyn hynt a helynt criw o bump o ddisgyblion ysgol wrth iddynt ddechrau tymor newydd wedi'r haf, a hynny yn y Chweched Dosbarth.
Mae'r pump yn cynnwys dwy ferch, Helen a Gwen, a thri o fechgyn, Neil, Gareth a Steff, ac mae'r stori'n cylchdroi'n bennaf o gwmpas cymeriad Gwen.
Ymhell o fod yn bur Yn wahanol i'r hyn a awgryma ei henw, mae Gwen ymhell o fod yn bur a pherffaith. Er yn beniog, ac yn llwyddiannus yn ei gwaith academaidd, nid yw'n fodlon ei byd.
Wedi dechrau ymh茅l 芒 bachgen h欧n o'r enw Jac, mae'n canfod ei hun mewn llond gwlad o broblemau.
Dechreua pethau fynd o chwith pan gaiff ei diarddel o'r ysgol wedi iddi gael ei dal yn ysmygu ac yfed dan oed mewn tafarn yn y dref. Ond diarddel ai peidio, mae'n parhau i fod yn ddisgybl poblogaidd iawn yn yr ysgol, ac mae'r pedwar arall yn penderfynu gweithredu i'w chael yn 么l.
Ffurfio gwefan Caiff Steff y syniad o ffurfio gwefan - 'Graffiti' - anhysbys, y gall pobl ymweld 芒 hi i arwyddo deiseb yn cefnogi croesawu Gwen yn 么l i'r ysgol.
Wedi i hyn brofi'n llwyddiant ysgubol, mae'r criw yn penderfynu dyfalbarhau 芒'r wefan a chreu rhyw fath o dudalen gymorth i ddisgyblion eraill.
O ganlyniad, ceir trafodaeth ar feichiogrwydd dan oed, ac o bynciau sy'n cyffwrdd 芒 chamdrin yn y cartref, a chyffuriau a pheth wmbreth o bynciau eraill.
A thrwy'r cyfan, mae ymdriniaeth yr awdur 芒'r pynciau anodd hyn, yn sensetif a chydwybodol a byth yn cael ei ddefnyddio er effaith.
Amserol dros ben Mae'r nofel yn un amserol dros ben ac i gefnogi'r thema gyfoes, defnyddia'r awdur dechnegau diweddar megis negeseuon testun ac e-byst i gyfleu'r stori.
Mae hyn yn hynod effeithiol gan ei fod yn creu math ar ddeialog rhwng cymeriadau, a hynny mewn ffordd amwys iawn.
Rydym ni fel darllenwyr yn aml gam ar y blaen i'r cymeriadau, ac mae hyn yn ysgogi rhywun i barhau i ddarllen ac yn wir, i edrych ymlaen at droi'r dudalen a chanfod beth sy'n digwydd nesaf.Mae'r arddull ar y cyfan yn eitha' moel, ac yn atgoffa rhywun ar brydiau, o nofel Pam Fi Duw?
Rhywbeth a allai beri problem i ddarllenwyr o'r gogledd yw fod cryn dipyn o ddefnydd o dafodiaeth ddeheuol yn y nofel er, yn bersonol, nid oedd hyn yn amharu dim ar fy mwynhad o'r llyfr - a dydy'r nofel ddim hyd yn oed wedi ei hanelu ataf i!
Mae Graffiti yn nofel fyddai'n apelio i ystod eang o blant gyda gwahanol lefelau o ddealltwriaeth. Ac er na fyddai hwyrach yn ymestyn rhai o'r garfan hynaf o ddarllenwyr, mae hi'n nofel y gall plant ymhob blwyddyn yn yr ysgol uwchradd, ei mwynhau a'i gwerthfawrogi.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|