|
Ffair lyfrau yn nhre'r llyfrau Eleni mae Cymdeithas Bob Owen yn cynnal ei ffair lyfrau am y tro cyntaf erioed yng Nghaerfyrddin.
Bydd yn Festri Capel Heol Awst, Ebrill 28, 2007.
"Rydym wedi dewis y dref hon gan fod ganddi draddodiad o argraffu a chyhoeddi llyfrau Cymraeg a Chymreig," meddai mel Williams, ysgrifennydd y Gymdeithas.
Cyhoeddi mwy na neb Dywedodd ei bod yn brif ganolfan
cyhoeddi ac argraffu yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif.
"Cyhoeddwyd mwy o lyfrau Cymraeg a Chymreig yn y dref hon na'r holl weisg yng Nghymru a'r gororau gyda'i gilydd," meddai.
"Yma yn 1860 cyhoeddodd gwasg Spurrell y Geiradur Cymraeg /Saesneg mae pob Cymro yn gyfarwydd ag o.
"Gwasg arall oedd un John Ross ac ato ef yr aeth William Williams Pantycelyn gyda llawysgrif Theomemphus i'w chyhoeddi ac yno, hefyd, y cyhoeddwyd Beibl Peter Williams yn 1770.
"Dyma'r Beibl cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru.Yr oedd John Ross yn ddyn o bwys yn y dref ac yn aelod yng Nghapel Heol Awst," meddai Mel Williams.
Llyfr Du Caerfurddin Dywedodd ei bod addas iawn mai yn festri Capel Heol Awst y cynhelir y ffair gan mai ar y safle hwn y safai'r priordy yn y ddeuddegfed ganrif lle yr ysgrifennwyd rhannau o Lyfr Du Caerfyrddin - un o drysorau cynharaf ein llenyddiaeth.
"Y mae'r enw Heol Awst, neu Lommas Street fel y'i hadnabyddir yn Saesneg, ag arwyddoc芒d hanesyddol a chrefyddol gan mai yn y stryd hon y safai T欧'r Brodyr Llwydion, ac ar y cyntaf o Awst arferent gynnal offeren i ddathlu G诺yl y Cynhaeaf, gan ddosbarthu bara yr un pryd.
"Dyma darddiad yr enw Saesneg, Lommas, neu Loaf-mass, a'r Awst," meddai.
Yr unig un Ffair lyfrau Cymdeithas Bob Owen yw'r unig un o'i bath yng Nghymru a hithau'n arbenigo mewn llyfrau Cymraeg a Chymreig.
Fe'i hagorir gan Weinidog y Capel, y Parchedig Towyn Jones, gyda stondinwyr a llyfrwerthwyr o bob rhan o Gymru yn arddangos oddeutu 20,000 o lyfrau Cymraeg a Chymreig 芒 channoedd o fapiau, recordiau a phrintiau..
Bydd y Ffair yn agored rhwng deg y bore a phedwar y prynhawn - pris mynediad 拢1.
Y gymdeithas Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi a'r Cylch ym 1976, a dewiswyd yr enw ar 么l y casglwr a hynafiaethydd hynod, Bob Owen, Croesor.
Golygir cylchgrawn y gymdeithas, Y casglwr gan Mel Williams a olynodd John Roberts Williams, y golygydd cyntaf.
Rhagor o wybodaeth ar 01678 540 652.
Cysylltiadau Perthnasol
Caerfyrddin yn Lleol i Mi
|
Sioned Cwmdwyfran Helo bobl! Rwy'n caru llyfrau, dyma pham des i ar y wefan! HAHA! Rwy mor ddoniol Pan rwyf yn darllen rwyn teimlo fy mod yn rhan o'r stori cyffrous. Mae'r cymeriadau yn fy anfon o amgylch taith fy mywyd.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|