91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Diwrnod y Llyfr 2008
E-gardiau, digwyddiadau, miri a hwyl . . . Diwrnod sydd wedi tyfu a thyfu
Bydd pob math o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2008 - ddydd Iau, 6 Chwefror.

Mae hwn yn ddiwrnod sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn ers ei gynnal gyntaf yng Nghymru fel un o weithgareddau Blwyddyn Darllen 1998-99 ac yn cael ei weld gan gyhoeddwyr a hyrwyddwyr fel Cyngor Llyfrau Cymru yn un o ddyddiadau pwysicaf y flwyddyn.

Ail flwyddyn ddarllen
Blwyddyn Darllen 2008 Ac yn 2008 mae Diwrnod y Llyfr hefyd yn ddiwrnod cychwyn yr ail Blwyddyn Darllen a fydd yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol gan Jane Hutt - y gweinidog dros addysg, plant, dysgu gydol oes a sgiliau -yn y Cynulliad Cenedlaethol - fore Iau, 13 Mawrth, yn y Senedd.

Yn ystod y blynyddoedd cynnar cymharol ychydig o ddigwyddiadau a drefnwyd a'r rheini gan y Cyngor Llyfrau ond yn sgil llwyddiant y rheini sylweddolwyd y gallai hwn dyfu i fod yn rhywbeth llawer iawn mwy na'r hyn y gallai'r criw bychan o weithwyr y Cyngor ei gynnal eu hunain.

Y canlyniad fu ffurfio partneriaethau ac fe fydd ffrwyth hynny i'w weld yn glir eleni gyda channoedd o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau a'r gweithgareddau hynny yn ymestyn ymhell y tu draw i ffiniau un diwrnod.

Dros y blynyddoedd daeth nifer o is ymgyrchoedd i fodolaeth gan gynnwys yr ymgyrch Gair ar Led gyda'i gardiau post ac e-gardiau lliwgar y gellir eu hanfon o'r wefan hon i argymell a chymeradwyo llyfrau neu rannau profiadau darllen.

Stori Sydyn
Menter arall sy'n ganolog i'r diwrnod erbyn hyn yw'r gyfres Stori Sydyn gyda nifer o deitlau wedi eu cyhoeddi ar gyfer y diwrnod eleni gan gynnwys stori gan un o'n hawduron mwyaf poblogaidd, Caryl Lewis, Jackie Jones

Partneriaeth yw'r gyfres hon gyda Sgiliau Sylfaenol Cymru a nawdd gan y Cynulliad ac yn un y mae'r Cyngor Llyfrau yn amlwg yn rhoi cryn bwys arni fel cyfrwng i ddenu pobl i ddarllen.

Mae'r llyfrau yn fyr ac mewn print bras ac yn rhai nad ydynt yn hawlio llawer o amser y darllenydd.

Ar y cychwyn nofelau byrion neu straeon byr hir oedden nhw ond erbyn hyn mae llyfrau ffeithiol wedi eu cyhoeddi hefyd.

Erbyn hyn cyhoeddwyd 12 cyfrol Gymraeg a 10 o rai Saesneg o Gymru ac yn 么l yr hyrwyddwyr mae "croeso mawr" iddynt a hwythau mor addas ar gyfer oedolion sy'n ceisio gwella eu sgiliau sylfaenol.

Mae iddynt eu hap锚l ymhlith dysgwyr hefyd.

Mae adran arbennig ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru gyda gwybodaeth am y rheseidiau o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru,

  • Ymhlith uchelbwyntiau y llynedd yr oedd penderfyniad cwmni Wiltan o Bont-y-p诺l i greu llyfrgell ar gyfer y gweithwyr ar Ddiwrnod y Llyfr.

  • Yn 2008 criw o undebwyr llafur o ardal Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr sydd wedi tanlinellu gwerth y Diwrnod i'w gwaith hwythau. - yn ystod lansiad Stori Sydyn/Quick Reads 2008 gan Scott Quinnell yng nghynhadledd TUC Cymru yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, dywedwyd i nifer o undebwyr gydweithio 芒 llyfrgellwyr ysbytai i drefnu ymgyrch Llamu mewn i'ch Llyfrgell ar gyfer y diwrnod.

  • e-gardiau Diwrnod y Llyfr
  • Blwyddyn darllen 2008
  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Blwyddyn Darllen 2008


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy