|
Diwrnod y Llyfr - digwyddiadau 2007 Rhestr o ddigwyddiadau Diwrnod y Llyfr
PIGION O WEITHGAREDDAU DIWRNOD Y LLYFR 2007
Darlith Diwrnod y Llyfr 2007
Rhiannon Lloyd, Prifathrawes Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf a Chydlynydd y Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol (1998-99) fydd yn traddodi darlith flynyddol Diwrnod y Llyfr, a hynny yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fawrth, 27 Chwefror. Cadeirydd y noson fydd Jane Davidson AC, Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
Gair ar led
Argraffwyd mwy na 100,000 o gardiau post arbennig, a nod yr ymgyrch yw cael pobl sy'n mwynhau llyfrau i rannu eu ffefrynnau gyda'u ffrindiau ymhell ac agos a'u hannog nhw i'w darllen hefyd. Bydd y cardiau post i'w cael mewn ysgolion, llyfrgelloedd a nifer o fannau eraill gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru a Gerddi Llannerchaeon.
Stori Sydyn / Quick Reads
Bydd 4 teitl Cymraeg a 4 theitl Saesneg newydd yn cael eu cyhoeddi ar Ddiwrnod y Llyfr.
Bydd Tanni Grey-Thompson, un o awduron y cynllun, yn ymweld 芒 Charchar Caerdydd a bydd rhai o'r awduron eraill yn rhan o weithgaredd arbennig yn Aberystwyth. Awduron eraill llyfrau 2007 yw Caryl Lewis, Bethan Gwanas, Gary Slaymaker, Gareth F. Williams, Fiona Phillips (GMTV), Lindsay Ashford a Niall Griffiths.
Taith Awduron
Bydd deg awdur ac un darlunydd llyfrau plant yn cynnal 23 sesiwn mewn siopau llyfrau ac ysgolion ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Anwen Francis, Morgan Tomos, Martin Morgan, Mei Mac, Ruth Morgan, Chris Glynn, Phil Carradice, Jenny Sullivan, Gwen Lasarus, Si芒n Lewis a Rob Lewis.
Rhwydwaith Fideo Cymru
Am y tro cyntaf bydd tri awdur yn rhan o sesiynau fideogynadledda gyda disgyblion ysgolion uwchradd ar Ddiwrnod y Llyfr. Bydd Bedwyr Rees, Catherine Fisher a Mihangel Morgan yn cynnal sesiynau ar gyfer ysgolion Morgan Llwyd, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Elfed, Caereinion, Alun, Castell Alun a Chwm Rhymni.
Croesair yn y Papurau Bro
Bydd degau o bapurau bro yn cyhoeddi croesair arbennig yn seiliedig ar lyfrau yn rhifynnau misoedd cyntaf 2007.
Llyfrau ar gyfer Elusennau
Mae cannoedd o aelodau o Ferched y Wawr a Sefydliad y Merched yn casglu llyfrau ar gyfer siopau'r elusennau canlynol - Barnardo, Y Groes Goch, Tenovus, Ty Gobaith yng Nghymru, Oxfam, Ty Hafan, Byddin yr Iachawdwriaeth, Ymchwil Cancr Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon, R.S.P.C.A. ac Ambiwlans Awyr Cymru.
CADW
Bydd nifer o feirdd, awduron a stor茂wyr yn cynnal sesiynau yn nghestyll Conwy, Caernarfon, Cas-gwent, Cydweli, Cricieth, Biwmaris, yn ogystal ag Abaty Tyndyrn a Chwrt Tretwr. Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan mae Menna Elfyn, Gwen Pritchard Jones, Mair Wynn Hughes, Fiona Collins, Eric Maddern, Gwynfor a Margaret Jones, Josie Felce a David Ambrose.
Llyfr y Flwyddyn 2007
Cyhoeddir rhestrau hir Llyfr y Flwyddyn a Book of the Year yn y Senedd. Trefnir y digwyddiad gan yr Academi. Gwneir y cyhoeddiad yn y gogledd yn Llyfrgell Dinbych ar yr un pryd. Bydd actorion yn perfformio darnau o lyfrau'r Rhestr Hir yn ystod y digwyddiad.
Ysgol Gynradd Penuwch, Ceredigion
Mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi gofyn i nifer o enwogion lleol a chenedlaethol i'w helpu i greu llyfrgell sain unigryw trwy recordio darn bychan o'u hoff lyfr ar d芒p neu CD, a'i anfon i'r ysgol. Eisoes mae llu o unigolion wedi addo cefnogi'r fenter, gan gynnwys Huw Edwards, Archesgob Caergaint, Catrin Finch, Hywel Gwynfryn, Lucy Owen, Meinir Gwilym Derek Brockway, Gillian Elisa, Geraint Lloyd a Rob Shelley.
Pentre Bach Sali Mali, Blaenpennal, Ceredigion
Wythnos o weithgareddau ar gyfer plant ysgolion Ceredigion yng nghwmni actorion cyfres Pentre Bach allu o feirdd, awduron a darlunwyr, gan gynnwys Myrddin ap Dafydd, Mei Mac, Mererid Hopwood, Geraint Lovgreen, Jac Jones ac Angharad Tomos.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Bydd Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio gyda phobl ifanc o ysgolion Ceredigion ar y thema 'Taith y Llyfr'. Bydd hyn yn cynnwys edrych nid yn unig ar y broses o dderbyn, catalogio a.y.b. o fewn y Llyfrgell ei hun, ond hefyd yn edrych ar ddulliau hen a newydd o argraffu, cynhyrchu a rhwymo llyfrau.
Traddodir darlith gan y Dr Rhidian Griffiths - 'Dinas a osodir ar fryn: canrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru' yng Nghanolfan Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Byd y Llyfr - arddangosfeydd ar John Donne a Robert Owen.
Gr诺p Llyfryddol Aberystwyth - arddangosfa o rwymiadau cain.
Bydd Cymdeithas Staff y Llyfrgell yn darllen yn ddi-dor yn y Drwm rhwng wyth y bore ac wyth y nos, a hynny mewn sawl iaith. Gwahoddir pawb fydd yn galw heibio i gyflwyno llyfr ar gyfer elusen Book Aid International.
Castell Bodelwyddan
Darlleniadau o farddoniaeth, yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan nifer o feirdd, gan gynnwys Grahame Davies, Twm Morus, Zo毛 Skoulding a Christine Evans.
Lansiadau Aberystwyth
Diwrnod o weithgareddau gan Honno ar 4 Mawrth yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a fydd yn cynnwys; gweithdy ysgrifennu gyda Janet Thomas; Cwrdd y Golygydd - sesiynnau gyda Caroline Oakley; lansio'r teitl 'Stange Days Indeed'.
Llandre
@ebol yn yn lansio'r gyfres newydd 'Chwarae a Dysgu'.
Myddfai
Bydd Grandma's Stories yn cynnal cystadleuaeth i chwilio am fam-gu sy'n siarad Cymraeg i ddarllen eu llyfrau er mwyn eu gosod ar CD-Rom.
Hwlffordd
Lansiad a chwrdd 芒'r awdur: bydd Brian John yn lansio argraffiad Corgi o Dark Angel, gyda sgwrs o dan y teitl Mistress Martha and the Angel Mountain Saga i ddilyn.
Gweithgareddau Mewn Ysgolion, Llyfrgelloedd a lleoliadau eraill Awdurdod Llyfrgell Caerdydd
Gweithgareddau fydd yn cysylltu Diwrnod y Llyfr ac ymgyrch Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru. Dethlir Diwrnod y Llyfr trwy gael sesiynau stor茂au ar gyfer teuluoedd ac ysgolion a digwyddiadau gydag awduron, yn ystod pythefnos gyntaf mis Mawrth. Trwy gynnwys teuluoedd, bwriedir cyflwyno llyfrau Stori Sydyn i oedolion a'u hannog i helpu eu plant trwy ddarllen fel teulu.
Awdurdod Llyfrgell Casnewydd
Chwiliwch am Gacen Ben-blwydd Diwrnod y Llyfr. Bydd lluniau o'r gacen ben-blwydd wedi'u cuddio yn y llyfrgell. Bydd y cwsmeriaid yn chwilio amdanynt ac yn cael tocyn llyfr os byddant yn llwyddo.
Awdurdod Llyfrgell Castell-nedd Port Talbot
Rhaglen o ddigwyddiadau trwy'r wythnos mewn llyfrgelloedd a chanolfannau eraill yn cynnwys: chwedleua gyda Daniel Morden; sesiwn awdur gyda Catrin Collier; sesiwn awdur gydag Ann Cleeves; sesiwn ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau. Cyflwyniadau ar gyfer digwyddiad Odl a Ch芒n a chystadleuaeth y llyfrgell yn Theatr y Princess Royal.
Awdurdod Llyfrgell Ceredigion
Prosiect ysgrifennu stor茂au gwreiddol am y m么r - yn cydweithio gyda'r Amgueddfa. Stor茂au yn cael eu darlllen/perfformio gan Jeremy Turner a Sue Jones Davies. Cystadleuaeth ar agor i oedolion a phlant.
Awdurdod Llyfrgell Gwynedd
'PANAD a PHENNOD' / 'DIP and SIP'
Bydd Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd yn rhedeg ymgyrch 'Hoff lyfr Gwynedd' eto eleni gan wahodd enwebiadau gan y cyhoedd a defnyddwyr llyfrgelloedd . Bwriedir cyflwyno mwg gyda'r geiriau 'PANAD a PHENNOD' / 'DIP and SIP' i'r cant cyntaf i enwebu llyfr yn ystod yr wythnos yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr. Gwneir hyn i annog enwebiadau ac i hybu cyfeiriadau we www.gwales.com a Talis (Catalog Llyfrgell Gwynedd). Cyhoeddir Hoff Lyfr Gwynedd yn fuan ar 么l Diwrnod y Llyfr.
Awdurdod Llyfrgell Merthyr Tudful
Sgwrs gan yr awdur Babs Horton - achlysur am ddim. Cwis Diwrnod y Llyfr: Cwis gyda'r nos rhwng pedair ysgol uwchradd yn yr ardal. Cwpan a chasgliad o lyfrau ar gyfer llyfrgell yr ysgol yn wobr. Prynu casgliad bach o lyfrau Saesneg gan awduron o Gymru, ar gyfer y Ward Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Siarl.
Awdurdod Llyfrgell Sir Fynwy
Nosweithiau darllenwyr ar thema Gymreig i gyfuno Dydd G诺yl Dewi a Diwrnod y Llyfr, yn Llyfrgell Cas-gwent a Llyfrgell y Fenni. Ar y noson, ceir darlleniadau o ffuglen Saesneg ar thema Gymreig (naill ai wedi'i lleoli yng Nghymru neu gan awdur o Gymru) a chyfle i brofi gwin o Gymru, caws o Gymru a phice ar y maen.
Awdurdod Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
Cychwyn casgliad o sachau stori dwyieithog i'w defnyddio mewn llyfrgelloedd ar gyfer 'amser stori' a sesiynau ar gyfer babanod a phlant bach. Caiff y casgliad hwn ei lansio yn Llyfrgell Maesteg adeg Diwrnod y Llyfr.
Awdurdod Addysg Ceredigion
Bydd disgyblion Blwyddyn 6 (Cynradd) a Blwyddyn 7 (Uwchradd) yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Bydd y gweithgareddau'n amrywiol iawn - megis gweithdy ysgrifennu cerddi; cwisiau darllen; sesiwn stori, tasgau Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol yn ogystal 芒 phethau ymarferol fel creu llyfrnodau. Bydd y gweithgareddau hyn yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unol 芒 chefndir ieithyddol y disgyblion. Bydd holl ysgolion y cylch yn rhan o'r dathliad.
Adran Addysg Conwy
Dwy gystadleuaeth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Creu cyflwyniad electronig yn seiliedig ar lyfr plant o ddewis yr ysgol ac sy'n adlewyrchu'r Dimensiwn Cymreig.
Awdurdod Addysg Sir Ddinbych
Ymweliad gan awdur ar gyfer holl ddisgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Prestatyn. Bydd y disgyblion yn gwneud gwaith ymchwil i ddysgu am yr awdur yn ystod y gwersi Saesneg cyn yr ymweliad. Hefyd, gobeithir cynnal cystadleuaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion wedi'i seilio ar y cwis teledu 'Mastermind'. Bydd y disgyblion yn cael dewis un nofel o ryw dair neu bump a gofynnir cwestiynau am y nofel/pwnc. Rhoddir gwobrau a gobeithio y bydd hyn yn annog darllenwyr cyndyn i fwynhau darllen.
Awdurdod Addysg Fflint
Cynhelir y gweithgareddau canlynol: Angharad Tomos yn gweithio gyda phlant o ddwy ysgol Gymraeg y sir; gweithdy barddoniaeth gyda Levi Tatari ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 10 a 11; sesiwn gyda'r awdures Sherry Ashworth ar gyfer disgyblion chweched dosbarth yn un o ysgolion uwchradd y sir.
Awdurdod Addysg Gwynedd
Gweithgaredd ysgol gyfan gyda chyswllt ag adrannau eraill o fewn yr ysgol i hybu llyfrau ac i annog gweithio traws gwricwlaidd. Pytiau blasu o lyfrau gwahanol - ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth - yn Gymraeg ac yn Saesneg yn cael eu dylunio (gyda chymorth adran Gelf/TGCh/Technoleg ayb yr ysgol) a'u gosod i fyny ar draws ac ar hyd yr ysgol gyfan. Helfa drysor ar gyfer Blynyddoedd 7, 8 a 9.
Awdurdod Addysg Merthyr Tudful
Digwyddiad i hybu rhigymau plant bach a'r straeon y tu 么l iddynt, a'u manteision i blant bach a'u teuluoedd, yng Nghanolfan Blant Cwm Golau, Pentre-bach, Merthyr Tudful.
Awdurdod Addysg Pen-y-bont ar Ogwr
Gweithdai adrodd straeon/ysgrifennu ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7 ac 8 yn Ysgol Gyfun Ogwr. Bydd cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf a phartneriaid eraill yn helpu i gynllunio a chyflwyno'r diwrnod.
Awdurdod Addysg Torfaen
Athro/artist lleol i weithio gyda disgyblion yn Ysgol Gymunedol Trevethin ac Ysgol Abersychan i ddod 芒 llyfrau'n fyw trwy gyfrwng defnyddiau 'Schools Out' Literacy goes MADD a llyfrau barddoniaeth. Darllen a chreu barddoniaeth, mwynhau drama a cherddoriaeth.
Awdurdod Addysg Ynys M么n
Dwy sesiwn gan yr awdur cynhyrchiol, John Malam - 'Make a non-fiction book: a role-playing workshop' ar gyfer dis Awdurdod Addysg Ynys M么n / Anglesey Education Authority ,br>
Dwy sesiwn gan yr awdur cynhyrchiol, John Malam - 'Make a non-fiction book: a role-playing workshop' ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7/8 yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Blwyddyn 7/8 yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
Treforys
Ysgol Gyfun Treforus: Cwis llyfrau yn seiliedig ar y rhaglen deledu 'Who Wants to be a Millionnaire'.
Y Barri
Ysgol Iau Babyddol St Helen's: Cystadleuaeth Pa Lyfr? - dewis 10 llyfr adnabyddus a'r gamp fydd cysylltu'r teitl cywir gyda naill ai y llinell gyntaf, y llinell olaf neu ddarlun o'r llyfr; ymuno yn ymgyrch 'Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru'; adolygiadau llyfrau; defnyddio cardiau post Gair ar Led; sesiwn stori; bore coffi a stondin lyfrau.
Caerdydd
Ysgol Gynradd Babyddol St Bernadette: Deg ucha'r dosbarth - 10 awdur, 10 teitl, 10 cymeriad o lyfr, ac arddangos y canlyniadau ar y waliau; gwahodd y plant i wisgo fel cymeriadau o lyfr; defnyddio cardiau post Gair ar Led; defnyddio taflenni gweithgaredd yn seiliedig ar bosteri cerddi Diwrnod y Llyfr; sesiwn stori; sillafu neu ddarllen noddedig; dylunio cloriau neu nodau llyfrau; creu proffiliau awdur; hoff lyfr/cas lyfr - cyflwyniadau llafar/trafodaeth gr诺p.
Castell Newydd Emlyn
Ysgol Gyfun Emlyn: Cystadleuaeth Pwy Sy'n Darllen Pa Lyfr? - rhestr o enwau 10 person a rhestr o 10 teitl a'r gamp fydd cyplysu'r person cywir gyda'r llyfr y mae'n ei ddarllen ar hyn o bryd; cystadleuaeth Pa Lyfr? - dewis 10 llyfr adnabyddus a'r gamp fydd cysylltu'r teitl cywir gyda naill ai y llinell gyntaf, y llinell olaf neu ddarlun o'r llyfr; gweithgaredd staff - cwis dros baned amser egwyl.
Glyncorrwg
Ysgol Gynradd Glyncorrwg: Gwahodd y plant i wisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr; y staff i wisgo fel cymeriadau o lyfrau a byddant yn mynd i wahanol ddosbarthiadau i ddarllen stor茂au sy'n cynnwys y cymeriadau hynny.
Saltney
Ysgol Uwchradd St David's: Y gwahanol ddosbarthiadau i ysgrifennu stori yn dilyn patrwm arbennig a bydd yr athrawon yn gorffen y stori drwy ysgrifennu'r paragraff olaf - bwriedir paratoi detholiad o'r stor茂au gorffenedig erbyn Diwrnod y Llyfr.
Y Bala
Ysgol Bro Tegid: Ymuno yn ymgyrch 'Darllenwch Filiwn o Eiriau yng Nghymru' defnyddio cardiau post Gair ar Led; trefnu Pont Stori gyda'r ysgol uwchradd leol; defnyddio taflenni gweithgaredd yn seiliedig ar bosteri cerddi Diwrnod y Llyfr; sesiwn stori; criw o ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13 o Ysgol y Berwyn yn dod i'r ysgol i drafod y llyfrau maent yn eu darllen ar hyn o bryd ac wedi eu darllen 10 mlynedd yn 么l.
Bethesda
Ysgol Dyffryn Ogwen: Darllen noddedig; cynhadledd fideo gyda'r awdur Bedwyr Rees; ymweliad gan yr awdures Gwen Lasarus.
Y Bala
Ysgol y Berwyn: Cystadleuaeth dyfalu llinell gyntaf y nofel - cysylltu'r llinell i'r nofel gywir; gwneud 'collage' ar yr hysbysfwrdd o hoff lyfrau'r disgyblion' aelodau'r Chweched Dosbarth i ymweld 芒'r ysgol gynradd leol i drafod y llyfrau maent yn eu darllen ar hyn o bryd ac wedi eu darllen 10 mlynedd yn 么l.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|