| |
|
|
|
|
|
|
|
Calendr ffermwyr noeth Ffermwyr ifanc yn dangos eu hunain
Mae rhai o ffermwyr ifanc cyhyrog Bro Ddyfi wedi cael tynnu eu lluniau'n noeth ar gyfer calendr arbennig i godi arian.
Ymhlith y rhai sy'n ymddangos yng nghalendr y clwb ffermwyr ifanc, mae'r cneifiwr amlwg o Fachynlleth, Aeron Pugh.
"Y gobaith yw mai merched yn unig fydd yn gwirioni ar y calendr," meddai gan chwerthin.
Daeth y syniad i aelodau'r clwb flynyddoedd lawer yn 么l ond fe gymerodd tan ddiwedd 2004 i'r criw fagu ddigon o hyder i fod yn borcyn o flaen y camera.
"Roedd na griw reit fawr ohono ni yn barod i fentro o flaen y camera llynedd er mwyn casglu arian i'r clwb, ac mi oedden ni'n lwcus bod chwaer un ohona ni, Elin Vaughan Jones, yn ffotograffydd ac yn barod i weithio gyda ni i sicrhau'r calendr, eithaf safonol," meddai.
Bu'r criw yn casglu arian i dalu am y gwaith argraffu gan sicrhau noddwr gwahanol ar gyfer pob mis.
Tynnwyd lluniau yn cerdded mynyddoedd, yn sefyll tu allan i'r dafarn ac yn gweithio yn hollol noeth, tra bo Elin yn brysur a'i chamera.
"Mae'r holl beth wedi bod yn gymaint o hwyl, ac rydym ni'n lwcus fod pob un ohona ni yn dipyn o idiots ac yn nabod ein gilydd ers yr ysgol feithrin.
"Wrth gwrs mae'r darnau pwysig yn cael eu cuddio tu 么l i ges, papur newydd neu ddafad. Mae'r lluniau yn ddoniol ond eto yn eithaf soffistigedig.
"Cafodd mil o'r calendrau eu hargraffu ac mae tua 900 wedi eu gwerthu heb s么n am y rhai sydd wedi cael eu cadw wrth gefn i gwsmeriaid.
"Y gobaith yw casglu oddeutu 拢4,000 i'r clwb ffermwyr ifanc." "Mae pob cam o'r calendr wedi bod yn hwyl, hyd yn oed gwerthu dau gant yn sefyll am deirawr yn Lo-cost. Roedd pawb yn fodlon talu, felly mae'n rhaid bod gynno ni rywbeth sy'n apelio at y cyhoedd," meddai gan chwerthin.Ond er cymaint y llwyddiant does dim bwriad gwneud hwn yn achlysur blynyddol!!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|