| ![Llais Llên](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Themâu ein Llên 'Beibl' i'r sawl sy'n sgwennu
Adolygiad Carys Mair Davies o Themâu ein Llên - Blas ar themâu ein llenorion gan Emyr Llywelyn. Lolfa. £7.95.
Pan welais hysbyseb gan y Lolfa am y llyfr hwn roeddwn am feddu ar gopi ar unwaith a rhuthrais i'w swyddfa gan imi deimlo y buasai ei ddarllen o fudd imi oherwydd fy hoffter o ysgrifennu creadigol.
Ond yn wir, wedi'i ddarllen - nid llyfr mohono ond perlau o wybodaeth y dylasai pob awdur eu darllen!!
Mae hi'n gyfrol bwysig arall gan Emyr Llywelyn, sy'n rhoi arweiniad i waith pedwar llenor cyfoes.
Hefyd, cawn ddetholiadau cynhwysfawr dan themâu penodol o waith llenorion o Gymru ac o wledydd tramor.
Fel yr awgryma'r teitl, mae'r llyfr yn trin a thrafod themâu llenyddiaeth yn gyffredinol ond trwy ganolbwyntio'n arbennig ar bedwar awdur - Caryl Lewis, Mihangel Morgan, Eleri Llewelyn-Morris a Geraint Vaughan Jones.
Mae'r llyfr wedi'i rannu'n ddwy ran gyda chyfweliadau hynod o ddiddorol gyda'r pedwar awdur yn y rhan gyntaf.
Gan imi ddarllen nifer o straeon yr awduron roeddwn yn awyddus i ddarganfod sut yr aethant ati i greu'r fath gampweithiau.
Mwynhau fwyaf Er bod y pedwar cyfweliad yn ddiddorol, mae'n rhaid cyfaddef taw un Caryl Lewis a fwynheais fwyaf - o drwch y blewyn meinaf! - gan imi deimlo y gallwn uniaethu'n fwy gyda hi na'r lleill.
Yn dilyn pob cyfweliad mae detholiad o weithiau'r awduron gyda cwestiynau'n dilyn i brofi'n gallu i sylwi ar amrywiadau llenyddol a themâu yn y darnau darllen.
Syniad defnyddiol dros ben.
Modd i fyw Yn yr ail ran mae'r pwyslais ar themâu, techneg, naratif, plot ac adeiladwaith a chymeriadaeth ond gyda hyd yn oed yn fwy o ddetholiadau o weithiau nifer o awduron.
Cefais fodd i fyw wrth ddarllen y detholiadau gan imi hefyd ddarganfod llawer am y math o berson yr ydw i.
Cyn hyn, rwyf wedi bod yn darllen amrywiaeth o lyfrau ar ystod eang o themâu heb sylweddoli'n iawn pa thema sydd yn fy nghyfareddu i fwyaf - os o gwbwl!!
Ond drwy ddarllen detholiadau gwrthgyferbyniol ar yr un adeg gwelaf yn glir pa themâu sydd yn fy ysbrydoli fwyaf i ysgrifennu fy hun.
Credaf ei bod hi'n syniad gwych gan yr awdur, Emyr Llywelyn, i nodi llyfrau tebyg o ran thema o dan y detholiadau.
Gallaf ganolbwyntio bellach ar y llyfrau argymhellwyd ar gyfer fy mhersonoliaeth i.
I bob oed Mae Themâu ein Llên yn cael ei gymeradwyol ar gyfer rhai sy'n astudio Cymraeg Safon A ond fel disgybl fydd yn sefyll arholiadau TGAU eleni ac sy'n mwynhau ysgrifennu straeon byr rwy'n argymell y llyfr i ddisgyblion ysgol uwchradd o unrhyw oedran i baratoi ar gyfer arholiadau.
Haedda Themâu ein Llên bob clôd a chanmoliaeth.
Mae'n werth ystyried yr awgrymiadau a roddwyd i'r darllenwyr gan yr awduron adnabyddus yn eu cyfweliadau - a'r tro nesaf y byddaf yn mynd ati i ysgrifennu stori fer, bydd Themâu ein Llên yn Feibl wrth fy ymyl!!!!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi Gweler Gwales
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91Èȱ¬ Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|