Adolygiad Carys Mair Davies o Tewach na D诺r gan Dylan Jones. Gomer. 拢6.95.
Dyma nofel iasoer sy'n taro deuddeg ym mhob ffordd. Nofel oedd yn peri arswyd i mi gan greu tensiynau annioddefol.
Rhaid i Sam geisio anghofio am orffennol erchyll wrth iddo ddychwelyd i Gymru i ailafael yn ei waith fel meddyg - ond dyw hi ddim yn hawdd anghofio am lofruddiaeth erchyll ei wraig, Jo, a'r baban yn ei chroth, yn enwedig pan fo gefell Jo, Debbie, yn atgof anesmwyth o'r hyn a fu.
A phan ddaw llun, arogl a llais Jo i aflonyddu ar Sam mae cred wallgof Debbie nad yw ei gefell wedi marw o gwbl yn dod yn bosibilrwydd dieflig.
Rhaid i Sam frwydro 芒'i deimladau a'i obeithion i geisio dod o hyd i'r llofrudd.
Ond wrth i'r tystion farw o un i un, daw Sam i sylweddoli fod y meddwl gorffwyll y tu 么l i farwolaeth ei wraig yn dymuno ei weld ef yn dal yn fyw. . .
Fy hoff gymeriad yn y nofel yw Chloe er nad hi yw'r fwyaf blaenllaw ond yn fy marn i hi yw'r cadernid a'r asgwrn cefn sydd ei angen ar Sam er mwyn dygymod 芒 marwolaeth ei wraig.
Cymeriad tawel a swil ydyw ond ys dywed yr hen ddywediad; "C诺n tawel sy'n cnoi."
Nid yw Chloe yn ceisio cuddio'i theimladau ac ar sawl achlysur mae hi'n gadael iddynt reoli ei gwrthrychedd.
Mae hyn yn bwysig er mwyn cael Sam i sylweddoli na ddylai yntau guddio ei deimladau ychwaith.
Nofel ddychryn sy'n agos at yr asgwrn fyddai'r disgrifiad gorau o gampwaith Dylan Jones ac wrth i mi ei darllen rhedai ias oer i fyny fy asgwrn cefn gan droi'r chwys ar fy ngwar yn i芒.
Ond er bod y stori yn peri arswyd nid oes dewis ond parhau 芒'r stori gan fod pob tudalen yn ychwanegu at gymhlethdod y digwyddiadau a difyrrwch plot sydd 芒 thro yn ei gynffon.
Nid yw y plot hawsaf i'w ddilyn a chymerodd ychydig o benodau i mi ddod i ddeall hanes Sam yn iawn - ond wedi i'r niwl glirio dechreuais fwynhau'r stori. Pur anodd oedd rhoi'r llyfr i lawr wedyn.
O ran iaith mae'r nofel yn eithaf syml.
Er nad yw'r clawr yn ddeniadol o bell ffordd mae'n un sy'n tynnu sylw gyda rhyw ddirgelwch yn perthyn iddo.
A thu 么l i'r clawr cefais fy nghyfareddu gan nofel sy'n llawn antur ac yn eich gorfodi i geisio datrys y dirgelwch.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi