Tacsi i'r Tywyllwch Stori sydyn yn gorffen yn rhy sydyn
Adolygiad o Carys Mair Davies o Tacsi i'r Tywyllwch gan Gareth F Williams. Cyfres Stori Sydyn. Lolfa. 拢1.99.
'Stori sydyn' yw Tacsi i'r Tywyllwch - stori ddiweddaraf Gareth F Williams. Ac mae hi'n glincar!
Mae plismyn y stori mewn penbleth. Daethpwyd o hyd i ddau gorff sy'n anodd eu hadnabod oherwydd t芒n a gyneuwyd yn fwriadol - ond yn rhyfeddach fyth, mae llaw rhywun arall yn cael ei darganfod ar bwys y cyrff.
Pam y lladdwyd y bobl hyn ac, yn bwysicach fyth, pwy yw'r llofrudd?
Buaswn i'n disgrifio Tacsi i'r Tywyllwch fel stori dditectif ac antur gan awdur sy'n medru trin a thrafod geiriau'n gain.
Mae'r plot yn symud yn ei flaen yn gyflym iawn a'r llofruddiaethau yn cael eu datrys yn gyflym iawn hefyd ac mae hynny yn wendid.
Dwi'n derbyn bod yn rhaid i Gareth F Williams osgoi'r demtasiwn i greu plot cymhleth iawn er mwyn ateb y gofyn am 'stori sydyn' ond oherwydd hynny mae'r modd mae'r heddlu'n dyfalu pwy yw'r llofrudd yn gwbl afrealistig.
Yn ogystal 芒 hyn, credaf fod diweddglo'r stori yn rhy 'daclus' a'r llofrudd heb orfod wynebu unrhyw ganlyniadau.
Ond er gwaetha'r diweddglo disymwyth llwyddir i greu tensiwn a drama a dyna rinwedd mawr y llyfryn sy'n cadw'r darllenwyr ar bigau'r drain.
Adroddir y stori o safbwynt nifer o gymeriadau ac mae hynny'n gweithio'n dda gyda'r darllenydd yn dod i ddeall safbwynt meddyliol pob cymeriad a gwerthfawrogi eu gweithredoedd.
Gan fod y plot yn gorfod symud yn gyflym nid lle i ddatblgu cymeriadau ond hyd yn oed wedyn hoffais Ffion y fam sengl sy'n mynnu magu ei phlentyn heb gymorth gan y tad er gwaethaf ei gynigion.
Mae hi'n benderfynol ac yn credu'n gryf yn ei moesau. Hi yw arwres y stori.
Fel stori i'w darllen unwaith, buaswn yn argymell Tacsi i'r Tywyllwch i unrhyw un ac er bod rhywfaint o iaith anweddus nid yw'r cynnwys ei hun yn anweddus
Edrychaf ymlaen yn awr at ddarllen un o nofelau'r awdur.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi