Adolygiad Carys Mair Davies o St@fell gan Meleri Wyn James. Cyfres Whap, Gwasg Gomer. 拢4.99
Mae st@fell yn llyfryn perffaith ar gyfer darllen sydyn. Ni chymerodd ond awr a hanner i mi ei ddarllen.
Mae'r stori'n troi o amgylch ystafelloedd sgwrsio ar y rhyngrwyd ac yn ymwenud 芒 thair ffrind, C锚t, Heledd a Siwsi.
Er bod y cymeriadau hyn mor flaenllaw 芒'i gilydd yn y stori rhoddir mwy o sylw i Heledd - yn enwedig digwyddiad erchyll pan oedd yn blentyn.
Mae'r tair ohonynt yn cysylltu 芒'i gilydd fin nos mewn ystafell sgwrsio hollol breifat y gwnaeth tad Heledd, Prif Arolygydd Heddlu Gorllewin Cymru, ei chreu ar eu cyfer.
Felly, sut ar y ddaear y llwyddodd 'V' i hacio i'r ystafell sgwrsio hollol breifat hon a bygwth Heledd?
Pan ymunodd 'V' 芒'r stori credais taw bwriad yr awdur oedd amlygu'r problemau a'r peryglon sy'n gysylltiedig 芒 siarad efo pobl ddieithr ar y rhyngrwyd.
Ond ni allai dim fod yn bellach oddi wrth y gwir ac mae tro sylweddol yng nghynffon y stori hon a'm gadawodd yn gegrwth.
Stori seicolegol yw st@fell sy'n cynnwys brwydr fewnol un cymeriad a diffyg maddeuant.
Er yn stori seml mae iddi blot llesmeiriol ond ni fuaswn yn argymell y llyfryn hwn i blant ifanc oherwydd rhegfeydd sydd ynddo.
Ar adegau mae'r iaith yn eithaf dryslyd oherwydd y defnydd o iaith decstio megis; "Lle chn nmnd gnod?" ac "Ise 拢拢拢 i gal netwrk newy. Sdim pawb mor 拢拢拢 芒 t".
Defnyddir gwahanol ddulliau i symud y stori yn ei blaen yn gyflym gan gynnwys ffeil ffeithiau i ddangos sut bobl yw'r tri phrif gymeriad.
Credaf fod y pris yn ffinio ar yr ochr ddrud oherwydd ar 么l darllen y stori unwaith nid wyf yn rhagweld y byddaf yn ei darllen eto.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi