Rhywbeth at ddant pawb
Adolygiad Gwenlian Rowlinson o Hiwmor Pws gan Dewi Pws. Cyfres Ti'n Jocan, Y Lolfa. 93 tt, ISBN 9 780 86243 997 2. 拢3.95.
Mae Dewi Pws wedi bod yn ein diddanu ers bron i ddeugain mlynedd ac wedi hen ennill ei blwyf fel canwr, actor a digrifwr.
Mae ei hiwmor unigryw yn gyfarwydd i bob un ohonom yn y Gymru Gymraeg.
Yn ei gyflwyniad ffraeth i'r gyfrol fechan hon, mae Lyn Ebenezer yn dweud ambell i stori fach am Dewi Pws a'r triciau direidus mae'n eu chwarae ar bobl.
Nifer o gerddi
Yn y gyfrol mae nifer o gerddi gan Pws yn ogystal 芒 j么cs ar bynciau yn amrywio o fyd addysg i fyd meddygaeth!
Mewn cerdd Hen Bethe mae Dewi'n s么n am bethau o'i ieuenctid - pethau cyfarwydd i'r rai o'r un oed ag ef - gwneud tost o flaen y t芒n, papur blotio a phlismyn mewn oed.
Gymaint mae'n byd wedi newid mewn byr amser!
Mae ei ddiddordeb yn y byd rygbi yn amlwg o ddarllen y gerdd Y G锚m sy'n disgrifio buddugoliaeth Cymru dros y Saeson yn 1999 a sut mae gwylio'r fideo yn codi ei galon bob tro.
Mae cerddi fel Ffrindiau Da a Dim ond Gofyn yn enghreifftiau o gerddi doniol ac yn adloniant pur sy'n rhoi cryn foddhad.
Braidd yn swreal!
Mae casgliad o dros ugain o limrigau doniol hefyd ac yn y gerdd Dweud Celwydd mae ei hiwmor swreal ar waith gyda'i ddychymyg ffraeth yn s么n amdano'i hun yn cywiro gwaith y Meuryn, Gerallt Lloyd Owen, a'r Frenhines yn Llywydd Merched y Wawr!
Mae'r gerdd Si么n Corn yn enghraifft dda arall o'r swreal gyda mwy nag awgrym o ddychan wrth iddo ddychmygu sut anrhegion fyddai Si么n Corn yn eu rhoi i wahanol rai:
"Rhywbeth bach i'r insomniacs ...... cas茅t digidol Es Ff么r S卯" ac "I Radio Cymru...... geiriadur Cwmr芒g"!
Mae dychan yn britho'r gyfrol - mewn j么c o fyd addysg mae cyn fyfyriwr yn cael gorchymyn i ysgubo'r llawr yn ei swydd gyntaf.
"Sut ydych chi'n disgwyl i mi ysgubo'r llawr?" meddai yn bwysig. "Mae gen i radd mewn Astudiaethau Cyfryngol."
"Mae'n ddrwg gen i," atebodd ei gyflogwr. "Fe fydd rhywun yn dod i egluro i ti sut ma'i wneud e."
Ciaidd iawn.
Nid pawb fyddai'n gwerthfawrogi hiwmor Dewi Pws ond fe fyddai'r rhan fwyaf yn cytuno bod hon yn gyfrol gwerth ei darllen.
Gydag amrywiaeth mawr o ddefnydd mae ynddi rywbeth at ddant pawb sy'n si诺r o ddod 芒 gw锚n i'ch wyneb.
Ac mae siawns go dda y gwnaiff ichi chwerthin hefyd!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi