| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Pin-yp Straeon dwsin o ferched noeth
Adolygiad Carys Mair Davies o Pin-Yp gan Janice Jones. Gwasg y Bwthyn. 194 tudalen. 拢7.
Cefais fy nenu fel gwenynen at bot m锚l gan glawr y llyfr yma gan ei fod yn cyfleu neges hwylus, sionc a llawn bywyd a obeithiwn y byddai'n cael ei hadlewyrchu yn y llyfr.
'Roedd y broliant yn ennyn diddordeb hefyd - yn gryno iawn. Dim syndod, felly, imi gipio'r llyfr oddi ar y silff.
Pob mis Mae'r nofel wedi'i seilio ar fisoedd y flwyddyn gyda chymeriad gwahanol ar gyfer pob mis.
O edrych ar glawr y llyfr, tybiwn mai merched ifainc, nwyfus, yn eu hugeiniau cynnar, fyddai'n ganolbwynt y nofel. Sioc, felly, oedd darganfod taw 12 o fenywod yn mynychu cyfarfodydd Merched y Wawr oedd y "pin-yps".
Menywod a oedd yn fodlon sefyll dros eu credoau ac yn fodlon brwydro tan y diwedd dros eu hachos - er, ambell un yn llai bodlon na'r gweddill.
Rheswm y menywod hyn dros gymryd pethau i'w dwylo eu hunain yw bygythiad i ddymchwel neuadd eu pentref - newyddion torcalonnus gan fod y neuadd yn allweddol ym mywydau'r rhan fwyaf ohonynt.
Yno y cynhelir yr ysgol feithrin a chyfarfodydd Merched y Wawr er enghraifft.
Er mwyn tynnu sylw at yr anfadwaith mae'r deuddeng merch yn y stori yn penderfynu ymddangos ar galendr noeth yn dilyn awgrym Sara Watcyn, cadeirydd y gangen.
Deuddeg safbwynt Ymdrinnir 芒'r stori o ddeuddeg safbwynt yn y nofel. Gwelwn faint o wrthwynebiad a chefnogaeth a dderbyn y menywod ac y mae pob stori yn amrywio o eithaf i eithaf.
Er imi hoffi stori Brenda, Sioned a Nia, heb os nac oni bai stori Phyllis aeth 芒 fy mryd.
Teimlais gymaint o dosturi tuag ati a rhyfeddu at ei dewrder yn herio ei g诺r sy'n ei thrin fel baw ac yn mwynhau ei gweld yn dioddef.
Mae'r nofel yn cyffwrdd 芒 phob sefyllfa dan haul o gam-drin i boeni am bwysau, o wrywgydiaeth i farwolaeth un 芒 garwch.
Mae'r nofel hon yn un arbennig iawn ac yn berthnasol i fywyd pob dydd.
Chwarddais yn uchel mewn mannau tra'n ceisio atal y dagrau mewn mannau eraill.
Unig wendid y nofel hyd y gwelaf i yw'r ffaith fod y stori yn mynd yn fflat wrth inni ddarllen am yr un cyfarfod dro ar 么l tro.
Gwell fyddai fod wedi s么n am y cyfarfod reit ar ddechrau'r nofel - fel rhyw fath o brolog? - cyn symud ymlaen at ymateb y "pin-yps" fesul mis.
Modd i fyw
Heblaw am hynny, cefais fodd i fyw wrth ddarllen Pin-Yp ac rwy'n argymell y nofel i unrhyw oedran gan ei bod mewn iaith seml, ddealladwy.
Hoffais y stori'n fawr ac rwy'n meddwl fod y plot yn un clyfar. Rwy'n sicr o ddarllen y llyfr hwn eto yn y dyfodol agos gan obeithio am ddilyniant! Mae'n haeddu saith allan o ddeg. Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall o Pin-Yp
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
Holi Janice Jones
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|