Os M锚ts Adolygiad Carys Mair Davies o Os M锚ts gan Bethan Gwanas. Lolfa. 拢1.99.
'Stori sydyn' yw Os M锚ts gan Bethan Gwanas ac un sy'n cynnwys elfennau o antur, rhamant a thwyll.
Ac mae'r cyfanwaith yn un arbennig.
Stori yw hi am benwythnos cywennod eithaf anarferol.
Nid limos卯n gwyn, sgleiniog, i Gaer ar gyfer partio gwyllt ac yfed gwylltach sydd wedi'i drefnu ond penwythnos o ddringo a chan诺io yn Llanddewi Brefi!!
Nid yw'r merched eraill yn hapus iawn gyda'r trefniadau ar y dechrau ac mae Ceri, prif gymeriad y stori a chwaer ifanc y ddarpar briodferch, bron 芒 thorri'i bol eisiau mynd yn 么l i glydwch cyfarwydd ei chartref.
Ond yn raddol mae'r merched yn dechrau mwynhau eu hunain ac yn cael yr hwyl ryfeddaf yn cymryd rhan yn y gwahanol weithgareddau sydd dan ofal Brendan, yr hyfforddwr golygus sydd 芒'i fryd ar y ddarpar briodferch.
Ond yng nghanol y sbort a'r sbri, y miri a'r mwynhau, daw gwe o gelwyddau i'r amlwg a thwyll yn teyrnasu a hynny'n gadael y darllenwyr mewn penbleth a fydd y briodas yn cario 'mlaen?
Mae Os M锚ts yn llyfryn gwych ar gyfer ymlacio a'r plot yn symud yn gyflym iawn a'r naws yn ysgafn a buaswn yn ei argymell i unrhyw un o unrhyw oedran.
Mae'r plot a'r iaith yn syml ac yn ddealladwy ac nid oes rhegfeydd na chynnwys anweddus.
Er mai iaith ogleddol sydd i'r llyfr; yn wahanol i lyfrau fel Hi yw fy Ffrinddim ond ychydig iawn o dafodiaith sydd yna.
Fy hoff gymeriad i yw Ann, merch gref a chadarn yn foesol.
Nid yw byth yn gwylltio er taw hi sydd wedi'i brifo fwyaf.
Caiff ei disgrifio fel y ferch berffaith ac ar adegau tybiwn ei bod yn rhy ddelfrydol oherwydd ei diffyg ffaeleddau - ond mae gan y cymeriadau eraill ddigon o ffaeleddau ar gyfer pawb ac i bara oes!!
Ni chewch eich siomi gyda'r stori hon.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi