Cyfnod o erlid ac o fwrw gwreiddiau
Adolygiad Gwenllian Rowlinson o Arloeswyr Methodistiaeth M么n (1730-1791) gan D. Ben Rees. Cyhoeddwyd gan Gapel T欧 Rhys, Llangoed ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon. Mehefin 2007. Pris 拢9.95.
Mae'r Parchedig Dr D. Ben Rees wedi ei gydnabod yn hanesydd Anghydffurfiaeth yng Nghymru ac yn arbennig hanes ei enwad ei hun, y Methodistiaid Calfinaidd - neu'r Presbyteriaid.
Mae'r gyfrol ddiddorol hon yn adrodd hanes y dyddiau cynnar hynny rhwng 1730 a 1791 cyn i Fethodistiaeth ddod yn rym o bwys yng Nghymru.
O bosib y bydd yn syndod i ambell un sylweddoli bod gwreiddiau Methodistiaeth ar Ynys M么n yn dyddio'n 么l i gyfnod cyn gynhared ond rhaid cofio bod y Methodistiaid, ar y cychwyn, yn fudiad o fewn yr Eglwys Wladol, a bod y Methodistiaid cynnar yn dal i dderbyn cymun yn eglwys y plwyf.
Yn y 1730au dyrnaid o Fethodistiaid yn unig oedd ar Ynys M么n ac mae D. Ben Rees yn adrodd hanes yr achosion cynnar hyn a'r arloeswyr a oedd yn eu cynnal gan gyfarfod ar y cychwyn mewn tai annedd a ffermydd.
Efallai na ddylai fod yn syndod bod cymaint o wrthwynebiad o du'r Eglwys Wladol i'r arloeswyr hyn a'u dilynwyr gan i Eglwys Loegr fwynhau monopoli llwyr ers y Diwygiad Protestannaidd.
Oherwydd erledigaeth greulon gorfodwyd rhai Methodistiaid i adael eu cartrefi gan landlordiaid Anglicanaidd - rhai yn gorfod dianc i ddinasoedd fel Lerpwl.
Profodd rhai o'r arweinwyr lid tyrfaoedd a chael eu hanafu. Ymddengys bod Llannerchymedd yn lle peryglus iawn i'r Methodistiaid cynnar.
Mae'r llyfr yn s么n hefyd am ymweliadau rhai fel John Wesley, Howell Harris, William Williams (Pantycelyn) a Daniel Rowland i bregethu ym M么n.
Mae s么n am ffrae rhwng Howell Harris a Daniel Rowland.
Ymhlith yr arweinwyr lleol sy'n cael sylw mae William Jones, Trefollwyn Blas a John Jones, Amlwch.
Dysgwn hefyd sut y bu i rai o drigolion Ynys M么n ymuno 芒 Theulu Trefeca, y gymdeithas a sefydlwyd gan Howell Harris, a sut y bu ffurfioldeb a chaethder y drefn yno yn ormod i un ferch, Elinor Dryhurst, a ddychwelodd i F么n.
Wrth i'r ddeunawfed ganrif fynd rhagddi magwyd digon o hyder i adeiladu capeli - y cyntaf yn Llangristiolus yn 1764.
Erbyn 1791, diwedd y cyfnod dan sylw yn y gyfrol hon, roedd Methodistiaeth wedi gwreiddio ac ugain o gapeli wedi'u codi.
Gyda Methodistiaeth ac Anghydffurfiaeth yn gymaint rhan o'r dreftadaeth Gymreig a Chymraeg, mae'r gyfrol ddwyieithog hon yn anhepgor i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes, diwylliant a chrefydd ar Ynys M么n.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi