| |
|
|
|
|
|
|
|
Martha Jac a Sianco Dyheu am ddilyniant!
Adolygiad Carys Mair Davies o Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Lolfa. 拢7.95.
Mae'n si诺r fod pawb bellach wedi clywed am Caryl Lewis a'i dawn i greu stori芒u sy'n agos at y galon. Mae hi'n nofelydd ifanc, ffres, sydd eisoes wedi ennill gwobrau fel Llyfr y Flwyddyn a Tir na n-Og.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Martha, Jac a Sianco ddewiswyd yn Llyfr y Flwyddyn 2005 ac ar 么l ei ddarllen hawdd gweld pam.
Ond mae'n rhaid imi gyfaddef na wnaeth diwyg y gyfrol argraff arnaf i wrth chwilio am ddeunydd darllen o lyfrgell yr ysgol gyda'i chlawr plaen a'i theitl diflas! Ni fuaswn wedi edrych ddwywaith ar y llyfr oni bai i'm ffrind ei hargymell.
Ac am sioc!!
Nid oedd dim o ddiflastod y clawr yn y cynnwys. Dyma nofel ryfeddol sy'n darlunio i'r dim gymuned glos a'r holl gymeriadau a geir ynddi.
Gwerth eu hadnabod Prif ffocws y nofel yw fferm Graig-ddu lle mae dau frawd a chwaer yn cadw buchod a defaid, yn trin y tir, yn casglu'r gwenith a chadw hen draddodiadau teuluol yn fyw trwy barhau 芒 ffermio traddodiadol.
Mae'r chwaer a'r ddau frawd yn rhai gwerth eu hadnabod.
Y Fartha drafferthus, ofalus o bawb ond yn arbed dim arni ei hun. Jac, y brawd mawr, a'i ddwylo geirwon yn byw i ffermio nes i hoeden benchwiban, Judy, ddod i'w wirioni. A Sianco, wedyn, y brawd bach hoffus agos-atoch.
Mae i'r tri eu personoliaeth, eu cyfrinachau tywyll,
breuddwydion cudd a deisyfiadau uchel.
Mae'r Graig-ddu yn lle brawychus iawn lle mae amgylchiadau'n carcharu'r trigolion.
Dyma stori bwerus a wnaeth imi grio ar adegau a chwerthin dro arall.
Hawdd mynd ar goll Mae'r plot yn gymhleth ond yn aros yn y cof ymhell ar 么l gorffen y darllen gan greu cylchoedd ym meddwl y darllenwyr a datblygu'n gyflym nes cyrraedd uchelbwyntiau chwerw.
Ond mae'n hawdd mynd ar goll wrth ddarllen Martha, Jac a Sianco gan fod cymaint o linynnau yn gwau drwy'i gilydd gan greu peth dryswch.
Bu'n rhaid imi ailddarllen pennod fan hyn a pharagraff fan draw er mwyn dal i fyny 芒 phethau.
Penagored yw diweddglo Martha, Jac a Sianco a'r gobaith yw y bydd Caryl Lewis yn creu dilyniant yr un mor gampus gan fy mod ar bigau'r drain eisiau gwybod 芒 fydd aradr yn parhau i rwygo'r tymhorau o'r pridd yn y Graig-ddu.
Fy nghwestiwn mwyaf yw, Beth sydd wedi digwydd i Martha?
Beth am Martha?
Hi yw fy hoff gymeriad ac nid yw hynny'n syndod gan mai o'i safbwynt hi y cawn y stori - menyw fach fregus sy'n fodlon helpu pawb ar ei thraul ei hun ac yn berffaith gydnaws a'r darlun ystrydebol o hen wraig fodlon ei byd mewn cymdeithas sy'n newid.
Ond nid dyna'r darlun cyflawn a chyda'r llinell olaf un mae'r darllenydd yn cael ei adael mewn penbleth ac yn ysu am fwy o eglurhad.
A yw Martha mor ddiniwed ag yr ymddengys? Pam y mae hi'n gwenu? Pwy fydd y seithfed person sy'n cael ei ladd? Mae'r tensiwn yn annioddefol ac os bydd dilyniant byddaf ar flaen y ciw i'w phrynu!
Oherwydd y cynnwys a'r iaith, ni fuaswn yn argymell y nofel i rai o dan 13 oed. Mae cryn regi - hyd at frawddeg olaf un!!
Er fy mod yn amau taw merched a gaiff y mwyaf o bleser o'i darllen byddwn yn argymell y llyfr yn fawr iawn i fechgyn hefyd.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
sinig ella bysa dilyniant yn anodd gan fod pob cymeriad yn marw
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|