Dod o hyd i fan cychwyn y stori fer
Glyn Jones yn dod o hyd i wreiddiau'r stori fer yn straeon y Mabinogion
Mewn llawysgrif sy'n dyddio o'r bymthegfed ganrif a elwir Llyfr Coch Hergest mae 11 o chwedlau a sancteiddiwyd gan ein cenedl.
Fe'u hadwaenir fel y Mabinogion a chofnod ysgrifenedig o chwedlau llafar yw'r straeon hyn ar wah芒n i ddwy eithriad sy'n straeon llenyddol.
Dwy stori fer ydi 'Breuddwyd Macsen' a 'Breuddwyd Rhonabwy' -wedi eu hysgrifennu ar femrwn gyda'r bwriad o gael eu darllen.
Dyma hau had y stori fer fel ffurf lenyddol - ond nid ar dir newydd y taflwyd yr hadau hynny ond i bridd ffrwythlon y traddodiad llafar gan i awdur 'Breuddwyd Macsen' droi at Wyddel o'r enw Sercc 脡cmais am ysbrydoliaeth.
Straeon yw'r rhain am arwr yn syrthio mewn cariad 芒 merch arallfydol y breuddwydiodd amdani. Dyma'i stori ef
Breuddwyd macsen
Pan fo Macsen Wledig, ymherodr Rhufain, ar daith hela flinderus penderfyna gymryd hoe a syrthio i gysgu a breuddwydio.
Ac oherwydd y freuddwyd honno mae'n trist谩u. Gw锚l y ferch decaf a welsai erioed a syrthio mewn cariad 芒 hi. Enfyn negeswyr i bob cyfeiriad i'w cheisio ac wedi hir chwilio, deuir o hyd iddi a disgrifir hynny ar ffurf deialog gyffrous sy'n symud yn slic o un olygfa i'r nesaf.
"Ac yn y llong fawr honno y teithiasant ar y m么r ac y daethant i Ynys Prydain, a theithiasant ar hyd yr ynys hyd oni ddaethant i Eryri.
'Dyma eto,' meddent hwy, 'y tir caled a welodd ein harglwydd ni.'
. . . Ac fe welent Aber Saint a'r gaer wrth yr afon. Gwelent borth y gaer yn agored. Daethant i'r gaer. Gwelsant neuadd yn y gaer.
'Dyma,' meddent hwy, 'y neuadd a welodd ein harglwydd ni yn ei gwsg.'
. . . ac fe welsant y forwyn yn eistedd mewn cadair o ruddaur. A gostwng ar eu pennau gliniau a wnaeth y negeswyr.
'Ymerodres Rhufain, henffych well.'"
Ymfalchio
Bwriad y stori yw gwneud i'r darllenydd ymffrostio ac ymfalchio yn ei wlad.
O holl wledydd y byd, i Gymru fach y daeth ymherodr Rhufain i geisio gwraig.
Mae'r awdur yn creu myth o hanes, yn tadogi Macsen ac yn ei hawlio i Gaernarfon. Yn wahanol i'n haneswyr cynnar, nid yw'n beirniadu Macsen. I'r gwrthwyneb, mae'n ei ganmol am godi caerau a ffyrdd, a hynny'n unswydd ar gyfer Elen o Gaernarfon.
Mae arddull y chwedl yn talu gwrogaeth i'r gorffennol hyd yn oed.
Fel y stor茂wyr canoloesol, y cyfarwyddiaid, mae awdur 'Breuddwyd Macsen' yn gwau i'w waith straeon onomastig sy'n egluro enwau llefydd.
Bob yn dri
Defnyddia hefyd y strwythur triphlyg a oedd mor uchel ei barch yn y cyfnod hwn i ennyn chwilfrydedd.
Er enghraifft, ymgymerir 芒'r un daith deirgwaith;
Yn gyntaf, y freuddwyd, yn amwys.
Mae'r ail yn enwi Ynys Prydain, Eryri, Caernarfon; a'r drydedd yn gronicl hanesyddol o ddyfodiad y Rhufeiniaid i'r ynys hon.
Breuddwyd Rhonabwy yn wahanol
Bwriad gwahanol sydd gan awdur 'Breuddwyd Rhonabwy.'
Dychan y gorffennol trwy ysgrifennu parodi o'r stori freuddwyd draddodiadol. Mae Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy (c1136) yn disgrifio Brutus o Gaerdroea yn cysgu ar groen ewig ger allor y Santes Diana, mewn gobaith o weld proffwydoliaeth.
Nid at allor yr aiff Rhonabwy, fodd bynnag, ond i d欧 budr hen wrach. Gofyn am lety, ond gan fod y gwelyau mor chweinllyd mae'n cysgu ar groen anner felen lle mae'n breuddwydio ei fod yng nghyfnod y Brenin Arthur.
Ar ddamwain felly, caiff Rhonabwy ei hun mewn sefyllfa y byddai'r proffwydi cynnar yn treulio amser mawr yn paratoi ar ei chyfer - ond nid proffwydoliaeth a ddaw iddo ef ond gweledigaeth o'r gorffennol.
Dim synnwyr
Ac yn union fel breuddwyd go iawn, nid yw'r weledigaeth yn gwneud dim synnwyr.
Mae Arthur, Owain a'u lluoedd i fod ym mrwydr Baddon erbyn cinio ond yn lle paratoi, eistedda'r ddau bennaeth i chwarae gwyddbwyll. Heb neb i orchwylio, dechreua lluoedd Arthur bryfocio brain Owain. Mae'r ddeialog sy'n dilyn yn glyfar tu hwnt
'Arglwydd,' meddai Owain, 'gwahardd dy w欧r os yw'n dda gennyt ti.'
'Chwarae dy chwarae,' ebe'r ymherodr.
Arthur yw'r meistr yma, mae ei filwyr yn ennill. Ni falia fotwm corn am frain ei gyfaill. Ond yna, mae'r rhod yn troi. Mae Owain yn blino ac yn gorchymyn ei frain i wrthryfela.
Ac edrychodd Arthur ar Owain a dweud, ' Gwahardd dy frain.'
'Arglwydd,' meddai Owain, 'chwarae dy chwarae.'
Nid arwr mo Arthur
Mewn chwinciad, mae popeth yn cael ei wyrdroi.
Yn wahanol i chwedlau eraill y Mabinogion, nid arwr mo Arthur yn y stori hon ond brenin balch ac ystyfnig. Yn wir, ystyfnigrwydd yw'r brif thema. Ystyfnigrwydd Arthur a'i amharodrwydd i ymyrryd yn y ffrwgwd rhwng y milwyr. Y canlyniad - dinistr.
Mae'r awdur yn parod茂o arddull y stor茂wr canoloesol hyd yn oed. Mae'n eu hefelychu gan agor ei chwedl yn fformiwlaig.
"Yr oedd Madog fab Meredudd yn llywodraethu Powys yn llwyr o ffin i ffin - ond yn lle mynd yn ei flaen i ymhelaethu fel y disgwylir, mae'n llusgo Rhonabwy i'r naratif gan anghofio'n llwyr am ei frawddeg agoriadol. Gwnaiff sbort am ben y strwythur triphlyg, gan wneud popeth chwe gwaith yn lle tair.
Gwatwar
Ac ar ben hyn oll meiddia watwar trefn fanwl y cyfarwyddiaid trwy fanylu ar bethau nad oes a wnelont hwy ddim a'r stori, fel hynodrwydd modrwy a mantell Arthur, ond gan esgeuluso s么n am bethau cwbl hanfodol, fel ystyr y freuddwyd a gafodd Rhonabwy.
Gwthio'r ffiniau - dyna a wnaeth awduron ein straeon byrion cyntaf, ac y mae digon o hynny i'w weld mewn llenyddiaeth Gymraeg gyfoes hefyd.
Ond gwnaethant rywbeth arall hefyd, rhywbeth y teimlaf nad yw llenorion heddiw yn ei wneud. Astudio gwaith y meistri a'u defnyddio'n sylfaen i'w gweithiau hwy.
Yr oedden nhw'n gweld un peth yn glir - mai ar dir 芒r y tyfir hadau - nid ar dir sydd eto heb eto ei aredig!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi