| |
|
|
|
|
|
|
|
Ar y Lein Eto Hiwmor a thaith i begwn byd
Adolygiad Gwenll茂an Rowlinson o Ar y Lein Eto gan Bethan Gwanas. Gwasg Gwynedd. 拢7.95. Clawr meddal. 175tt. ISBN 0 8074 2350
Anrheg Nadolig gan fy mrawd oedd y llyfr yma ac o'r cychwyn cyntaf roeddwn yn edrych ymlaen at ei ddarllen gan imi fwynhau y gyfrol flaenorol, Ar y Lein, gan yr un awdur.
A hithau'n dilyn llinell hydred rhennir y llyfr fel hyn: Ewrop (Cymru, Cernyw a Llydaw), yr Affrig, Mali, Yr Antarctig, Seland Newydd, Ffiji, Pegwn y Gogledd, Ynysoedd y Ffaroe ac Ewrop a'r Alban.
Dan Ewrop, ar ddechrau'r llyfr, cawn hanes yr awdures yn cael gwres syrffio yng Nghernyw a'r wefr o fod yn gallu syrffio ychydig.
Meddai: "Chyffd. Does ganddoch chi'm syniad."
Mae hiwmor yma hefyd wrth iddi ddweud bod ganddi ben-glin giami ac yn hoff iawn o Sbaen gan gael gwers Fflamenco yno.
Ceir disgrifiad difyr yn yr adran Antarctig am y dillad isaf i'w gwisgo yno a'r disgwyl cyn gallu mynd yno. Dywed, "Y ffaith ein bod more bell o bob man."
Yn yr adran am Seland Newydd cawn flas ar draddodiad y Maori a hithau wrth ei bodd yno. Ceir disgrifiad o'r d诺r yn Ffiji ac o'i hoffter hi o'r bobl.
Yn yr adran ar Begwn y Gogledd dywed yn ffraeth; "Does 'na affliw o ddim byd yno, wrth gwrs, dim ond rhew."
Cryfder y llyfr yn fy marn i yw'r disgrifiadau lliwgar o bobl a gwledydd a welodd ar ei thaith.
Mae Bethan Gwanas 芒'r ddawn anhygoel o allu creu portreadau o gymeriadau a welodd drwy'r byd.
Gall eu disgrifio yn gryno ac yn effeithiol a chredaf fod hyn yn rhinwedd yn y llyfr.
Mae'r arddull yn agos atoch ac yn eich annog i ddarllen ymlaen a'r ffaith ei fod ar ffurf dyddiadur yn hwyluso'r darllen ac yn cadw trefn ar y digwyddiadau.
Fel un a wyliodd y gyfres deledu gallaf yn awr gofio'r daith trwy ddarllen y llyfr a'r ddau yn atgyfnerthu'i gilydd.
Mae'r lluniau lliw yn ardderchog a digon ohonyn nhw a'r clawr hefyd wedi ei gynllunio'n gelfydd gan Tanwen Haf.
Llyfr i'w fwynhau a ninnau'n teithio'r byd heb symud o'n cadair freichiau!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|