Adolygiad Jenifer Parker o Hogyn Syrcas gan Mary Annes Payne.
Mae'r llyfr Hogyn Syrcas gan Mary Annes Payne, yn nofel fer am dristwch bywyd bachgen ifanc o'r enw Geraint, sydd yn chwilio am ddihangfa yn rhamant y syrcas.
Hynny er mwyn dianc o dyfu i fyny mewn cartref lle mae'r fam yn alcoholig a'r tad yn breuddwydio am wneud ffortiwn.
Gyda'r llyfr wedi ei ysgrifennu o safbwynt Geraint llwydda'r awdur i gael dan groen problemau'r bachgen yn llwyr.
Maen stori hawdd a syml i'w ddarllen ac yn enghraifft berffaith o lenyddiaeth fodern Gymraeg.
Gwnes i wirioneddol fwynhau ei darllen.
Rydw i'n astudio'r nofel Un Nos Ola Leuad yn yr ysgol ac mi fydd Hogyn Syrcas yn help mawr gyda'r gwaith synoptig gan fod ynddi adleisiau cryfion o'r nofel honno sy'n un o glasuron yr iaith Gymraeg.
Yr unig peth negyddol fyddwn i am ei ddweud am y llyfr yw fod y diweddglo yn reit fflat.
Ond gan fod y cychwyn mor dda nid yw hynny yn ormod o anfantais.
Byddwn yn annog unrhyw un i ddarllen y llyfr yma gan ei fod yn addas i ferched ac i fechgyn ac yn llyfr sydd wedi'i ysgrifennu i wneud i chi feddwl.
Nofel wahanol a ffres o'i chymharu a llawer o nofelau eraill.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi