Stori 'iawn' heb fod yn arbennig
Adolygiad Carys Mair Davies o Stwffia Dy Ffon Hoci!
gan Haf Llewelyn. Gwasg Gwynedd. 拢4.95.
Llyfr llawn sbort a sbri yw Stwffia dy Ffon Hoci! gan Haf Llewelyn - fel mae'r teitl yn awgrymu!!
Mae bywyd Lois y prif gymeriad yn llanast, druan; mae'n gas ganddi hoci a phan fo Gemma "Hulk" ar ei h么l hi gyda'i ffon mi fyddwch chi'n deall pam!
Ond mae Sara "berffaith" ar ei h么l hi hefyd - oes a wnelo hyn rywbeth 芒 Jac, tybed?
Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, mae rhywbeth mawr yn poeni'i mam.
Fy hoff gymeriad i yn y stori yw Elin, ffrind gorau Lois, sydd 芒 phersonoliaeth gref a hoffus iawn.
Yr arwydd gorau o'i phersonoliaeth gref yw nad yw'n dal dig pan fu Lois yn eithaf siort 芒 hi.
Dengys hyn fod Elin yn sicr iawn o'i ffrindiau a'i sefyllfa mewn bywyd heb orfod dibynnu ar ganmoliaeth ac agosatrwydd Lois drwy'r dydd, bob dydd.
Er bod y cymeriadau sydd yn stori Haf Llewelyn yn rhai hollol gredadwy y gellir uniaethu 芒 hwy ni allaf gytuno 芒 'r rhai sy'n dweud eu bod yn gymeriadau bythgofiadwy hefyd gan nad oes yr un ohonynt yn sefyll allan i mi.
Pe byddwn yn gorfod disgrifio Stwffia dy ffon hoci! y gair y byddwn yn ei ddefnyddio yw "iawn" gan nad yw yn gwir daro deuddeg:
Mae'r plot yn syml, y cymeriadau yn gyffredin a'r digwyddiadau yn ddigon digyffro am ferch ysgol yn ei harddegau.
Nid yw'n llyfr y byddaf yn ei darllen eto ond mae'n ddeunydd darllen ysgafn - iawn.
Gwendid mawr yn y llyfr yw fod y diweddglo yn un hapus a'r prif gymeriad yn cael popeth mae hi ei eisiau a phawb yn byw'n hapus byth wedyn!!
Ond nid yw'n ddiweddglo realistig yn anffodus er mor braf yw hi weithiau i orffen ar nodyn hapus.
Mae'r stori yn bendant yn fwy addas ar gyfer merched na bechgyn yn cael ei hadrodd o safbwynt merch a chyda manylion am ddillad a cholur. Sgwrsio merched sy'n si诺r o syrffedu unrhyw fachgen!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi