91热爆

Explore the 91热爆
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Gemydd
Croeso i nofel newydd Caryl Lewis
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Y Gemydd gan Caryl Lewis. Lolfa. 拢7.95.

    Mae'n rhaid bod pob copa walltog sy'n mwynhau darllen yn y Gymraeg wedi clywed am Caryl Lewis a hithau'n un o'r prif awduron cyfoes ar gyfer pobl ifanc.

    Eisoes darparodd straeon dirdynnol fel Martha, Jac a Sianco a Dal Hi!.

    Clawr y llyfr Y ddiweddaraf o'i llyfrau y cefais y pleser o'i darllen yw ei nofel newydd, Y Gemydd ac unwaith eto mae'n stori sy'n gafael mewn modd brawychus.

    Stori yw am gymeriadau brith sy'n byw ar gyrion cymdeithas a'r prif gymeriad, Mair, yn crafu byw trwy drin a gwerthu gemau a chlirio tai - nes y daw ar draws gem sy'n trawsnewid ei bywyd yn llwyr.

    Nid oes plot cymhleth, cymeriadau bythgofiadwy na darluniau anhygoel yn perthyn i'r Gemydd. Yn wir, mae'n eithaf syml.

    Ond y mae hefyd yn nofel glyfar tu hwnt yn uniaethu 芒 threialon bywyd bob dydd.

    Mae'n nofel sy'n siarad gyda'r mwyafrif ohonom nad ydym yn byw bywyd swreal, llawn cyffro.

    Bod yn gredadwy
    Gwendid llawer o awduron yw eu bod yn creu straeon sy'n llawn digwyddiadau sy'n chwyldroi bywydau a'u newid o un eithaf i'r llall.

    Mae'r digwyddiadau y cyfeiriaf atynt yn rhoi plot penigamp ond maent hefyd yn tanseilio'r hyn sy'n gredadwy. Mae Y Gemydd, fodd bynnag, yn wahanol.

    Mae hon hefyd yn nofel rymus llawn symbolaeth ac yn gweithio ar sawl lefel.

    Mae gan Caryl Lewis ddawn arbennig i greu cymeriadau dwys, diddorol, a'u gosod mewn lleoliad credadwy.

    Ochr yn ochr 芒'i dawn dweud mae'r defnydd o dafodiaith Ceredigion. Mae hynny a'r holl waith ymchwil sy'n mynd i mewn i'w gwaith yn cynnig nofel aeddfed, grefftus i unrhyw ddarllenwr ei mwynhau.

    Ond wedi darllen Y Gemydd mae'n rhaid imi gyfaddef nad dyma fy hoff lyfr gan Caryl Lewis.

    Ni chefais fy swyno gymaint ganddi 芒 gweithiau fel Martha, Jac a Sianco er enghraifft.

    Ni theimlaf fod yr un swyn rhwng cloriau hon ag oedd yn ei nofelau cyntaf.

    Ond wedi dweud hynny 'roedd y prif gymeriad, Mair, yn dangos elfennau dirdynnol o gynildeb a dwyster nas gwelwyd o'r blaen ac rwy'n argymell Y Gemydd a'ch hannog i'w ddarllen.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
  • Gweler Gwales :
    "Nofel sy'n cyfleu unigrwydd dirdynnol gyda phortreadau grymus o gymeriadau sy'n gweithio mewn marchnad sydd ar fin cau. Dilynir argyfwng Mair, sy'n gwneud bywoliaeth o drin gemau a chlirio tai, nes y daw un gem i drawsnewid ei bywyd yn llwyr..."

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Holi Caryl Lewis


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy